Roedd diwrnod i ffwrdd i ambell un o chwaraewyr Cymru’r penwythnos hwn wrth i’r nifer o gemau sydd yn cael eu gohirio oherwydd Covid-19 gynyddu. Ychwanegwch y tywydd rhewllyd at hynny a dim ond tua dwy draean o’r gemau a oroesodd yng nghynghreiriau Lloegr.

Ond sut y perfformiodd y Cymry yn y gemau hynny? A gyda’r ffenestr drosglwyddo wedi ail agor a oes rhai ohonynt ar fin symud i glwb newydd?

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Ychydig funudau’n unig a gafodd Dan James wrth i Man U drechu Aston Villa nos Wener. Daeth i’r cae fel eilydd gyda thri o’r naw deg munud yn weddill. Tybed a fydd y dyfalu am ei ddyfodol yn ail ddechrau yn awr fod y ffenestr drosglwyddo ar agor? Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Neil Taylor i Villa.

Chwaraeodd Ethan Ampadu wrth i Sheffield Utd golli yn Crystal Palace ddydd Sadwrn ac mae ei dîm bellach heb ennill yn eu pymtheg gêm gyntaf o’r tymor. Yn dilyn ambell berfformiad da yng nghanol cae dros yr wythnosau diwethaf, chwarae fel un o dri amddiffynnwr canol a wnaeth Ampadu yn Selhurst Park ac roedd yn edrych ar goll yn llwyr.

Er cystal gôl Eberechi Eze i Palace fe ddylai Ampadu fod wedi ei daclo. Does dim dwywaith, ar hyn o bryd yn ei yrfa, mai chwaraewr canol cae yw Ethan.

Roedd buddugoliaeth dda i Tottenham nos Sadwrn wrth iddynt drechu Leeds o dair gôl i ddim i godi i’r trydydd safle yn y tabl. Chwaraeodd Ben Davies y gêm gyfan ond roedd Gareth Bale allan o’r garfan gydag anaf. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Rodon i Sprus ac felly hefyd Tyler Roberts i Leeds.

Er iddo ddychwelyd am ddwy gêm ym mis Rhagfyr, mae’r anaf i’w fraich a gadwodd Hal Robson-Kanu allan o garfan Cymru yn ôl ym mis Hydref yn peri problemau iddo o hyd ac nid oedd yng ngharfan West Brom wrth iddynt gael cweir gan Arsenal nos Sadwrn.

Gwylio o’r fainc yn ôl ei arfer a wnaeth Danny Ward wrth i Gaerlŷr guro Newcastle ddydd Sul ac nid yw Lerpwl Neco Williams yn chwarae tan nos Lun, yn erbyn Southampton.

*

Y Bencampwriaeth

Mae Abertawe yn ail yn y tabl ar ôl curo Watford ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango a Connor Roberts yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i un ond nid oedd Liam Cullen yn y garfan ar ôl profi’n bositif am Covid-19 yn gynharach yn yr wythnos.

Rhyngddynt, y mae Bournemouth a Stoke yn cyflogi sawl Cymro felly roedd y gêm rhwng y ddau dîm nos Sadwrn o ddiddordeb mawr i ni. Mae Chris Mepham yn parhau i fod wedi’i anafu a dim ond ugain munud oddi ar y fainc a gafodd David Brooks i Bournemouth hefyd.

Ar ôl dechrau ei gêm gyntaf ers naw mis a chwarae awr yn erbyn Nottingham Forest ganol wythnos, fe chwaraeodd Joe Allen y 90 munud cyfan yn erbyn y Cherries. Sgoriodd James Chester gôl i’w rwyd ei hun yn y gêm honno yn erbyn Forest ac er na wnaeth ail adrodd y tric hwnnw yn y gêm hon, colli a fu hanes ei dîm wrth i Bournemouth ennill o gôl i ddim.

James Chester

Cafodd Sam Vokes chwe munud oddi ar y fainc ond ar fwrdd y ffysio y mae Adam Davies a Morgan Fox o hyd.

Cafodd Joe Jacobson noson i’w chofio i Wycombe yn erbyn Caerdydd ganol wythnos, yn creu un o goliau ei dîm wrth iddynt drechu clwb ei blentyndod o ddwy gôl i un. Dechreuodd y cefnwr yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn hefyd ond colli fu ei hanes ar yr achlysur hwn. Cafodd Alex Samuel ychydig funudau yn y fuddugoliaeth dros Gaerdydd hefyd ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd yr ymosodwr yn erbyn Boro.

Ar ôl gorfod gohirio sawl gêm oherwydd Covid-19, colli a wnaeth Millwall yn eu gêm gyntaf ers pythefnos, dwy gôl i un yn erbyn Coventry wrth i Tom Bradshaw chwarae tri chwarter y gêm.

Un newydd bach arall o ddiddordeb i’r Wal Goch yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn efallai a fydd ymddangosiad prin i Isaac Christie-Davies ar fainc Barnsley. Ymunodd cyn chwaraewr dan 21 Cymru â’r clwb o Swydd Efrog ym mis Medi ar ôl cael ei ryddhau gan Lerpwl.

*

Cynghreiriau is

Mae Lincoln a Brennan Johnson yn aros ar frig yr Adran Gyntaf ar ôl ennill o ddwy gôl i un yn Wimbledon ddydd Sadwrn. Nid oedd gôl iddo’r penwythnos hwn ond mae’r Cymro ifanc yn parhau i gael tymor da iawn gyda’r Imps, ar fenthyg o Nottingham Forest. Roedd ymddangosiad cyntaf ers rhai misoedd i Adam Roscrow wrth iddo ddod ymlaen am y pum munud olaf i’r gwrthwynebwyr.

Un arall sydd yn cael tymor i’w gofio yw Luke Jephcott. Ef a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Plymouth drechu Gillingham ddydd Sadwrn ac mae bellach wedi sgorio pum gôl yn ei bum gêm ddiwethaf a deuddeg yn ei bymtheg ddiwethaf. Tybed a fydd clybiau o adrannau uwch yn edrych arno yn ystod y ffenestr drosglwyddo?

Yn dilyn dechrau da i’r tymor, mae Charlton yn colli tir ar geffylau blaen yr Adran Gyntaf ar ôl colli yn Hull. Dechreuodd Chris Gunter ac Adam Matthews fel cefnwyr wrth iddynt golli o ddwy i ddim ac roedd hanner awr oddi ar y fainc i Jonny Williams. Roedd Dylan Levitt yn absennol o’r garfan unwaith eto a’r sôn yw y bydd Man U yn ei alw nôl o’i gyfnod aflwyddiannus ar fenthyg yn ne ddwyrain Llundain yn o fuan.

Sôn am gyfnodau aflwyddiannus ar fenthyg, colli a fu hanes Blackpool hefyd wrth i Ben Woodburn gael deuddeg munud fel eilydd.

*

Yr Alban a thu hwnt

Chwaraeodd Ash Taylor a Ryan Hedges yng ngêm gyfartal ddi sgôr Aberdeen yn erbyn Dundee Utd yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn ac roedd Christian Doidge yn nhîm Hibs wrth iddynt gael cweir annisgwyl gartref yn erbyn Livingston.

Yn yr Almaen, nid oedd Rabbi Matondo yng ngharfan Schalke ar gyfer eu gêm yn erbyn Hertha Berlin wrth i’r sïon yn ei gysylltu â Stoke (ar fenthyg) gynyddu.

Nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli ychwaith wrth iddynt hwy golli yn erbyn Furth.

Ail ddechreuodd tymor yr A-League yr wythnos hon ond mae Joe Ledley heb glwb ac yn ôl yn byw yng Nghaerdydd. Dywedodd yn ddiweddar ei fod yn awyddus i ddychwelyd i chwarae yn Awstralia ond fod y cyfyngiadau teithio Covid-19 presennol yn ei gwneud hi’n anodd iddo ef a’i deulu symud yno ar hyn o bryd. Mae ei gyd Gymro a’i gyn reolwr gyda’r Newcastle Jets, Carl Robinson, bellach wedi symud at y Western Sydney Wanderers felly tybed ai yno y bydd cyrchfan nesaf Joe?

Roedd Juventus Aaron Ramsey yn chwarae gartref yn erbyn Udinese yn Serie A nos Sul a chafodd y Cymro gêm dda wrth iddynt ennill o bedair gôl i un. Rambo a greodd y gôl agoriadol i Cristiano Ronaldo, yn ennill y meddiant cyn bwydo’r Portiwgead.

Roedd Ramsey’n meddwl ei fod wedi sgorio un ei hun hefyd ond gwelodd y dyfarnwr lawiad ganddo yn anffodus. Perfformiad gwych serch hynny.

 

Gwilym Dwyfor