Y Cymro Gerwyn Price yw pencampwr dartiau’r byd y PDC, ar ôl curo’r Albanwr Gary Anderson o 7-3 yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Fe yw’r Cymro cyntaf yn hanes y byd dartiau i ennill Pencampwriaeth y Byd y PDC.

Fe wnaeth e fethu 11 dart i gipio’r ornest, ond fe wnaeth e hefyd dorri’r record yn y chweched set am y cyfartaledd set gorau erioed ym Mhencampwriaeth y Byd, gyda chyfartaledd o 136.64.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu ei fod e bellach yn rhif un yn y byd.

Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn un gyfforddus am gyfnodau helaeth o’r ornest, wrth iddo fe fynd ar y blaen o 5-1, ond fe wnaeth yr Albanwr frwydro hyd y diwedd cyn i Price daflu dwbl pump i selio’r fuddugoliaeth.

Taflodd Price sgôr o 180 13 o weithiau o gymharu â deg Anderson, ond roedd yn edrych yn bosib y gallai’r nerfau fod wedi ei drechu yn erbyn yr Albanwr mwy profiadol, sydd wedi ennill teitl y byd ddwywaith yn y gorffennol.

Roedd Price ar y blaen o 2-0 o ran gemau yn y set gyntaf cyn ei hennill o 3-2 ar ôl i Anderson fethu â phedwar dart at ddwbl yn y drydedd gêm.

Enillodd Price bedair gêm o’r bron wedyn cyn i Anderson daflu 180 a gorffen gyda 128 i ennill ail gêm yr ail set, gan ennill y dair gêm nesaf.

Cipiodd Price y dair set nesaf ac roedd e ar y blaen o 5-1 wrth daflu dwbwl 20 am y trydydd tro ar ddeg yn olynol i ennill dwy gêm gynta’r seithfed set.

Collodd Anderson chwe gêm yn olynol cyn taro’n ôl i’w gwneud hi’n 5-2 ac yna 6-3 o ran setiau wrth i Price ddechrau colli’i ffordd rywfaint.

Fe wnaeth Price fethu â thaflu dwbl 10 a dwbl pump yn y set olaf ond un, a chael a chael oedd hi yn y set olaf hefyd wrth i Anderson gipio’r ddwy gêm gyntaf.

Bu’n rhaid i’r Cymro gamu i ffwrdd i bwyllo cyn taflu i ennill yr ornest:

Mae Gerwyn Price wedi ennill ei le yn Uwch Gynghrair Dartiau 2021, ochr yn ochr â Michael van Gerwen, Peter Wright, Rob Cross, Gary Anderson, Glen Durrant, Nathan Aspinall, Dimitri van den Bergh a Jose de Sousa.

‘Pwysau’

“Dw i erioed wedi teimlo’r fath bwysau yn fy myw,” meddai Gerwyn Price wrth Sky Sports ar ôl codi’r tlws.

“Ro’n i’n ei ddychmygu’n mynd i mewn a sawl gwaith ro’n i’n meddwl, “Dw i’n mynd i’w cholli hi”.

“Wn i ddim, ond dw i erioed wedi teimlo pwysau fel yna yn fy myw.

“Pan gewch chi’r cyfle yna i ennill a bod gyda chi dri dart yn eich llaw i’w gael e, rydych chi’n meddwl eich bod chi am ei gwneud hi, ond dw i erioed wedi bod yn y sefyllfa honno o’r blaen i ennill Pencampwriaeth y Byd ac roedd hi’n anodd.

“Ro’n i yn yr ystafell ymarfer a dw i erioed wedi bod mor nerfus ag ydw i heddiw, mae hi wedi bod yn anodd.”

‘Siomedig’

“Mae cael fy nghuro yn y ffeinal yn siomedig ond dw i’n canmol fy hun am gyrraedd y ffeinal yn y lle cyntaf,” meddai Gary Anderson.

“Heno, do’n i jyst ddim yn gallu cael y dartiau i mewn i’r trebl 20.

“Dartiau erchyll, ond dyna sy’n digwydd pan ydych chi’n gwneud hynny, rydych chi’n cael crasfa, on’d ydych chi?”

Darllenwch ragor am Gerwyn Price: