Bydd Gerwyn Price yn derbyn anrhydedd rygbi gan Gastell-nedd, lle chwaraeodd dros 100 o gemau, yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC.

Fe yw’r Cymro cyntaf yn hanes y byd dartiau i ennill Pencampwriaeth y Byd y PDC ar ôl curo’r Albanwr Gary Anderson o 7-3 yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Dathlodd cyn-glwb rygbi y gŵr 35 oed y gamp ar Twitter drwy ddweud bod y cyn-fachwr wedi mynd o fod yn “Rhif 2 Castell-nedd i Rif 1 y byd”.

Ac atgoffodd Price ei hen glwb yn ystod cyfweliadau ar ôl yr ornest nad yw wedi derbyn ei gap am chwarae 100 gêm i’r ‘Crysau Duon Cymreig’, gan ddweud y byddai’n mynd â thlws y PDC gartref i wneud hynny.

“Cymhwysodd Gerwyn am gap clwb ond methodd y cyflwyniad ar ddiwedd y tymor,” esboniodd ysgrifennydd rygbi Castell-nedd, Mike Price.

“Yna, aeth i Clwb Rygbi Pont-y-Cymer a diflannu i fyd dartiau. Roedden ni’n mynd i drefnu rhywbeth iddo’r tymor diwethaf cyn i Covid ymyrryd.

“Ond ry’n nin gobeithio trefnu rhywbeth pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio.

“Mae croeso i Gerwyn yma ar unrhyw adeg a byddwn yn falch iawn o roi ei gap iddo.

“Anfonais neges lwc dda ato gan y clwb cyn y rownd derfynol a chefais fy synnu ei fod wedi anfon neges destun yn ôl ataf ychydig oriau cyn y gêm. Ond mae hynny’n dangos y math o ddyn yw Gerwyn.”

Rhanbarthau Cymru wedi “colli allan”

Chwaraeodd Gerwyn Price 128 o gemau i Gastell-nedd a threuliodd amser byr gyda thîm PRO14 y Glasgow Warriors cyn troi ei sylw at ddartiau.

“Rwy’n credu bod rhanbarthau Cymru wedi colli allan ar rywun fel Gerwyn,” meddai Mike Price.

“Roedd yn fachwr eithriadol o fedrus, ond gallai fod wedi chwarae yn y rheng ôl neu hyd yn oed y tu ôl i’r sgrym.

“Roedd hyd yn oed yn giciwr da, gallai wneud unrhyw beth mewn gwirionedd, ac roeddwn yn synnu nad oedd un o’r rhanbarthau wedi ei arwyddo.

“Ond roedd colled rygbi yn bendant o fudd i ddartiau. Ac yn sicr, ni fyddai Gerwyn yn ennill hanner miliwn o bunnoedd ar feysydd rygbi Cymru!”

“Gobeithio fy mod wedi ysbrydoli” 

Daeth buddugoliaeth Gerwyn Price ychydig fisoedd yn unig ar ôl iddo ef a Jonny Clayton gynrychioli Cymru wrth ennill teitl Cwpan Dartiau’r Byd PDC am y tro cyntaf.

“Rwy’n gobeithio fy mod wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc a’r genhedlaeth hŷn yng Nghymru yn ogystal â dangos bod unrhyw beth yn bosibl,” meddai Gerwyn Price wrth Sky Sports.

“Dwi wedi dod o gefndir gwahanol ac erioed wedi chwarae dartiau sirol na dim byd.

“Mae bod yn bencampwr y byd saith mlynedd yn ddiweddarach a rhif un y byd yn wallgof.

“Dw i’n dal ar ben fy nigon a doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i yma’n dal y tlws hwn, ond mae’n debyg mai bod yn rhif un y byd yw’r peth anoddaf.”

Teyrnged i’w fam  

Talodd Gerwyn Price deyrnged i’w fam, fu farw’n chwe blynedd yn ôl, gan ysgrifennu ar Instagram bod “golau disglair yn edrych i lawr arnaf drwy gydol y twrnament”.

“Roedd llawer o bwysau arnaf, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau codi’r tlws iddi hi.

“Dechreuais chwarae dartiau saith mlynedd yn ôl a dim ond y flwyddyn gyntaf y gwelodd hi.

“Byddai hi’n falch o’r hyn rydw i wedi’i wneud.”

Gerwyn Price

Gorfoledd i Gerwyn

Fe wnaeth y Cymro Gerwyn Price guro’r Albanwr Gary Anderson o 7-3 yn ffeinal Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC yn yr Alexandra Palace yn Llundain

Gerwyn Price yn “fwy na rhywun oedd wedi pigo lan set o ddarts lawr y clwb rygbi”

Alun Rhys Chivers

Dylan Williams o PDC Cymru yn siarad â golwg360 gyda’r cyn-chwaraewr rygbi un fuddugoliaeth i ffwrdd o ddod yn bencampwr byd dartiau’r PDC