Mae Cymru wedi derbyn ei chyflenwad cychwynnol o 22,000 dos o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca ac mae’r pigiadau cyntaf yn cael eu rhoi ddydd Llun, mae’r gweinidog iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau yn ei gynhadledd heddiw (dydd llun 4 Ionawr).

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae heddiw’n nodi carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig Covid-19. Dywedwyd bod cyflwyno brechlyn AstraZeneca yn newid pethau yn llwyr, ac mae hyn yn wir – ni ddylid tanbrisio ei botensial.”

Fe fydd yr ail frechlyn coronafeirws sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig yn dechrau cael ei ddosbarthu ar draws Cymru heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4), gydag o leiaf 40,000 dos o’r brechlyn AstraZeneca ar gael o fewn y pythefnos nesaf yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd angen dau ddos o’r brechlyn o fewn rhwng 4 a 12 wythnos i’w gilydd, yn dilyn newid yn y cyngor gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) oedd yn wreiddiol wedi argymell cyfnod o bedair wythnos yn unig rhwng y brechiadau.

Dros yr wythnosau nesaf, meddai Mr Gething, bydd nifer y canolfannau brechu torfol yng Nghymru yn codi o 14 i 22, bydd dros 60 o feddygfeydd yn darparu brechlyn Rhydychen a bydd unedau symudol yn cael eu sefydlu ledled y wlad.

Mae gweithwyr gofal iechyd yn cael eu hyfforddi i weinyddu’r brechlyn, gyda chynlluniau i weithio gyda “fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion lleol” i ddarparu clinigau brechu, meddai Mr Gething.

“Cwestiynau difrifol yn parhau”

Ond, wrth ymateb i ddechrau cyflwyno’r ail frechlyn coronafeirws yng Nghymru heddiw, rhybuddiodd Plaid Cymru fod “cwestiynau difrifol yn parhau” ynglyn â chyflwyno brechlynnau yng Nghymru.

Yn ôl Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd Rhun ap Iorwerth AoS, mae Cymru wedi bod y tu ôl i “bob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig” o ran y niferoedd sydd wedi eu brechu – a rhybuddiodd yn erbyn “loteri cod post”.

Galwodd hefyd am “eglurder” ar y dystiolaeth ar gyfer newid y protocolau ar gyfer darparu brechlynnau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod y penderfyniad i ohirio’r ail ddos am hyd at 12 wythnos gyda’r ddau frechlyn wedi achosi “pryder gwirioneddol” ymysg meddygon sy’n ofni y gallai danseilio ei effeithiolrwydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AoS: “Rwy’n falch bod gennym ail frechlyn yn cael ei gyflwyno erbyn hyn, ond mae cwestiynau difrifol yn parhau ynglŷn â’r cynlluniau i’w gyflwyno.

“Mae Cymru wedi bod y tu ôl i bob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig o ran y niferoedd sy’n cael eu brechu, ac mae llawer gormod o amrywiaeth o ranbarth i ranbarth – ni ddylai Llywodraeth Cymru ganiatáu loteri cod post.

“Ac mae’n rhaid i ni gael eglurder ynglŷn â’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid y protocolau ar gyfer darparu brechlynnau – mae’r penderfyniad i ohirio’r ail ddos am hyd at 12 wythnos gyda’r ddau frechlyn wedi achosi pryder gwirioneddol ymhlith llawer o feddygon sy’n ofni y gallai danseilio ei effeithiolrwydd.”

Covid-19: Amrywiolyn newydd yn “lledaenu’n gyflym drwy Gymru”

Nifer yr achosion yn “parhau’n uchel iawn” ond wedi gostwng ychydig ers cyn y Nadolig, meddai Vaughan Gething