Fe fydd yr ail frechlyn coronafeirws sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig yn dechrau cael ei ddosbarthu ar draws Cymru heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Fe fydd o leiaf 40,000 dos o’r brechlyn AstraZeneca ar gael o fewn y pythefnos nesaf.

Fe fydd angen dau ddos o’r brechlyn o fewn 4 a 12 wythnos i’w gilydd, yn dilyn newid yn y cyngor gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imwineiddio (JCVI) oedd wedi argymell cyfnod o bedair wythnos yn unig rhwng y brechiadau.

Daw’r newid yn y cyngor yn dilyn argymhelliad bod cymaint o bobl a phosib yn y grwpiau risg mwyaf yn cael blaenoriaeth wrth gynnig y dos cyntaf o’r brechlyn.

Mae’n debyg bod y brechlyn cyntaf gan Pfizer-BioNTech wedi cael ei roi i 35,000 o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth rhwng Rhagfyr 8 a 27, gan gynnwys gweithwyr iechyd rheng flaen, staff gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal, a phobl dros 80 oed.

Tymheredd

Bydd y brechlyn yn cael ei ddosbarthu i bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn unol â maint ei boblogaeth â blaenoriaeth a’i allu i’w roi.

Yn wahanol i frechlyn Pfizer BioNTech, nid oes rhaid storip brechlyn AstraZeneca ar dymheredd isel iawn, ac mae’n gallu cael ei storio ar dymheredd oergell brechlynnau arferol. Mae hyn yn golygu bod llai o broblemau o ran ei storio a’i gludo, gan olygu ei fod yn llawer haws ei ddefnyddio mewn llefydd fel cartrefi gofal, a meddygfeydd.

Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â ffonio eu meddyg teulu, eu fferyllfa na’u hysbyty yn gofyn pryd fyddan nhw’n cael y brechlyn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’n bosib na fydd effeithiau’r brechlynnau i’w gweld yn genedlaethol am rai misoedd, a bod y cyngor ar gadw Cymru yn ddiogel yn aros yr un fath.

“Carreg filltir allweddol”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae heddiw’n nodi carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig Covid-19. Dywedwyd bod cyflwyno brechlyn AstraZeneca yn newid pethau yn llwyr, ac mae hyn yn wir – ni ddylid tanbrisio ei botensial.

“Mewn llai na mis, mae GIG Cymru wedi cyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru, ac mae mwy na 35,000 o bobl wedi cael y dos cyntaf hyd yma.

“Nawr, bum diwrnod yn unig ers i reoleiddwyr gymeradwyo’r brechlyn newydd i’w ddefnyddio yn y DU, mae ail frechlyn yma ac yn barod i’w ddefnyddio, gan ychwanegu’n sylweddol at allu Cymru i frwydro yn erbyn y coronafeirws a diogelu ein poblogaeth fwyaf agored i niwed.”

“Dechrau’n araf”

Dywedodd Dr Gillian Richardson, Uwch-swyddog Cyfrifol Rhaglen Brechu rhag Covid-19 Cymru:

“Mae’n newyddion gwych bod gennym nawr ail frechlyn i helpu i ddiogelu pobl fwyaf agored i niwed ein cymunedau rhag niwed Covid-19.

“Bydd pa mor gyflym y caiff ei gyflwyno yn dibynnu ar gyflenwad, gan ddechrau’n araf yr wythnos hon a chynyddu’n sylweddol dros yr wythnos a’r misoedd nesaf. Fodd bynnag, bydd brechiadau’n cael eu rhoi mewn meddygfeydd o heddiw ymlaen a byddwn hefyd yn gweld cynnydd yn nifer ein canolfannau brechu yn ystod y mis.

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn parhau i aros eu tro am y brechlyn – byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.”