Mae nifer o undebau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol yng Nghymru heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4), ac yn galw ar y Gweinidog Addysg i ohirio dysgu wyneb yn wyneb.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddoe (dydd Sul, Ionawr 3),fod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ysgolion ar ôl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn parhau “dan ystyriaeth”.
“Wrth gwrs, byddwn ni’n parhau i wneud penderfyniadau yng ngoleuni’r wybodaeth ac ymchwil orau sydd ar gael i ni ar y pryd,” meddai wrth Radio Wales.
Ond wrth sôn am ddychwelyd i leoliadau addysg yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf, dywedodd Aelodau Gweithredol Cymru o’r Undeb Addysg Genedlaethol, Mairead Canavan, Neil Foden a Hannah O’Neill: “Mae NEU Cymru wedi gofyn i’r Gweinidog Addysg ohirio dechrau dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos gyntaf mis Ionawr o leiaf, er mwyn i’r gwyddonwyr gael amser i asesu’r sefyllfa yma yng Nghymru, o ran Covid-19 a’r amrywiolyn newydd.
“Rydym mewn sefyllfa wahanol nag yr oeddem ar ddiwedd tymor yr Hydref, a chredwn fod hwn yn ddull synhwyrol o sicrhau ein bod yn rhoi diogelwch a lles pawb yn gyntaf.
“Fel addysgwyr, ni fydd ein haelodau’n gwneud penderfyniadau ynghylch dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn ysgafn.
“Er ein bod yn credu nad yw Covid-19 yn cael cymaint o effaith ar blant a phobl ifanc, ychydig o dystiolaeth sydd gennym am yr amrywiolyn newydd.
“Gwyddom hefyd fod pobl ifanc yn byw mewn teuluoedd a chymunedau, ac mae’n bwysig inni weithredu’n awr i gadw pawb mor ddiogel ag y gallwn.
“Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad synhwyrol cyn y Nadolig i hysbysu awdurdodau lleol bod ganddynt bythefnos o hyblygrwydd ar ddechrau’r tymor ar gyfer dychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Ond ers hynny, rydym yng Nghymru gyfan ar “lefel 4”.
“Angen blaenoriaethu’r brechlyn ar gyfer staff addysg”
Aeth yr Undeb Addysg Genedlaethol ymlaen i ddweud bod “gwyddonwyr angen amser i asesu’r sefyllfa”.
“Mae lefelau’r amrywiolyn newydd yng Nghymru yn ansicr, a chredwn fod angen amser ar y gwyddonwyr i asesu’r sefyllfa a gwneud argymhellion perthnasol, cyn i ysgolion a cholegau ddychwelyd,” meddai
“Rhaid i les a diogelwch plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau, yn ogystal â staff mewn lleoliadau addysg, fod yn brif flaenoriaeth.
“Pan fydd ysgolion a cholegau’n mynd yn ôl, mae angen i ni weld mygydau’n cael eu gwisgo yn yr ystafelloedd dosbarth.
“Mae angen inni hefyd flaenoriaethu’r brechlyn ar gyfer staff addysg. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc, felly dylai cadw athrawon a staff cymorth yn ddiogel fod yn flaenoriaeth.
“Mae eleni wedi bod yn heriol i bawb ym maes addysg, ac wrth i ni i gyd fyfyrio ar yr hyn a ddaw yn 2021, mae’n rhaid i ddiogelwch a lles barhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu yma yng Nghymru.”
“Hynod bryderus”
Mae undebau megis NASWUT Cymru, UNSAIN Cymru, UCAC a NAHT Cymru hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod yn “hynod bryderus” am y sefyllfa.
“Rydym yn hynod bryderus y bydd ysgolion yn agor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun, tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu gwybodaeth am natur ac effaith yr amrywiad newydd o Covid-19,” meddai’r Undeb.
“Credwn yn gryf bod angen inni arfer pwyll a sicrhau, ymlaen llaw, bod gennym y ‘dystiolaeth a’r wybodaeth’ feddygol i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn rhai cywir.
“Rydym yn hynod rwystredig gyda’r penderfyniad i gadw at yr un cynigion ag a gynlluniwyd yn flaenorol, er gwaetha’r ffaith fod cyfraddau heintio ar gynnydd a bod pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Ymateb Llywodraeth Cymru i’r sefyllfa bresennol yw na phenderfynwyd ar unrhyw newid er i’r wlad gyfan symud i mewn i rybudd risg uchel iawn Lefel 4 sy’n debygol o barhau y tu hwnt i Ionawr 8, 2021.
“O ystyried bod Cymru gyfan yn Lefel 4, rydym o’r farn y dylid cael ymateb canolog, cydlynol gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr holl leoliadau addysgol, yn hytrach na gadael y penderfyniadau i’w gwneud ar lefel leol.
“Yn ychwanegol at hyn mae angen i ni wybod a oes angen unrhyw addasiadau ar lefel weithredol, o gofio bod cytundeb bod y firws newydd yn cael ei drosglwyddo’n haws.
“Rydym yn arbennig o bryderus am les y rhai sy’n feichiog a’r angen i sicrhau bod y dystiolaeth feddygol yn sicrhau eu diogelwch, ac nad yw’r canllawiau’n gwahaniaethu yn eu herbyn.”
Dywedodd Sian Gwenllian AoS, llefarydd addysg Plaid Cymru, bod angen i gabinet Llywodraeth Cymru gwrdd heddiw (Dydd Llun): “Mae Dydd Mercher yn rhy hwyr. Os yw’r cyngor gwyddonol yn dweud fod rhaid cau ysgolion, yna bydd raid cau a gwell fod rhieni ac athrawon yn gwybod hynny er mwyn osgoi sgrambl fawr i wneud trefniadau amgen munud olaf (unwaith eto.)”