Mae disgwyl i sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, glywed heddiw a fydd yn cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Mae Julian Assange, 49, yn wynebu 18 cyhuddiad gan gynnwys honiadau o gynllwynio i hacio cyfrifiaduron a chynllwynio i ddatgelu manylion cudd-wybodaeth.

Daw’r achos ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi cannoedd ar filoedd o ddogfennau rhwng 2010 a 2011 yn ymwneud a rhyfeloedd Irac ac Affganistan, yn ogystal â gwybodaeth ddiplomyddol.

Yn ôl erlynwyr roedd Julian Assange wedi helpu’r dadansoddwr cudd-wybodaeth Chelsea Manning i dorri’r Ddeddf Ysbio er mwyn cael mynediad anghyfreithlon at y wybodaeth, wedi cyfrannu at hacio cyfrifiaduron gan eraill, a chyhoeddi cudd-wybodaeth oedd wedi rhoi bywydau achwynwyr yn yr Unol Daleithiau mewn perygl.

Mae Julian Assange yn gwadu cynllwynio gyda Chelsea Manning i hacio cyfrifiaduron Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau ac yn dweud nad oes tystiolaeth bod diogelwch unrhyw un wedi cael ei beryglu.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen yr Old Bailey heddiw (dydd Llun, Ionawr 4) pan fydd y barnwr Vanessa Baraitser yn cyhoeddi ei dyfarniad a ddylai gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau i wynebu’r cyhuddiadau.

Yn ôl cyfreithwyr Julian Assange fe allai wynebu mwy na 175 mlynedd yn y carchar os yw’n ei gael yn euog ond mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn fwy tebygol o gael dedfryd rhwng pedair a chwe blynedd dan glo.