Mae Cylch yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu ag ymateb i argyfwng y farchnad dai gwyliau.
Yn ôl y mudiad, mae’r argyfwng yn tanseilio strwythur a gwead cymdeithasol cymunedau Cymru ac yn peryglu’r iaith Gymraeg.
Fis yn ôl, galwodd ymgyrchwyr Cylch yr Iaith am fwy o reolaeth dros dwristiaeth yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn “tanseilio ein cymunedau”.
Daeth hynny yn sgil eu hymchwil, sy’n nodi bod dadleuon o blaid hyrwyddo twristiaeth, megis creu swyddi a gwariant ymwelwyr yn “esgusodi sgîl-effeithiau annymunol y sector.”
Mae disgwyl i Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gyhoeddi bwriadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â thai gwyliau ym mis Ionawr.
“Anwybyddu’r broblem”
“Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi gadael i’r farchnad dai gwyliau ddatblygu’n ddi-reol fel bod argyfwng cymdeithasol ac ieithyddol mewn nifer o gymunedau ers tro, a chymunedau ychwanegol yn awr yn dod o dan bwysau cynyddol oherwydd dwysedd tai gwyliau,” meddai Cylch yr Iaith mewn datganiad.
“Maen nhw wedi anwybyddu’r broblem drwy’r blynyddoedd ac wedi dewis cau llygaid a gwrthod cydnabod y chwalfa gymunedol a’r anghyfiawnder cymdeithasol, gyda phobl yn methu cael cartref yn eu hardaloedd eu hunain.
“Mae’r farchnad dai yn cael ei meddiannu’n gynyddol gan bobl o’r tu allan, a does gan drigolion lleol ddim gobaith cystadlu oherwydd bod y prisiau ar gynnydd yn gyson a chyflogau cymharol isel siroedd y gorllewin yn aros yn eu hunfan. Yng Ngwynedd, mae dros 10% o stoc tai bellach yn ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr.”
Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n “gadarn ac ar frys”
Mae Cylch yr Iaith bellach wedi cysylltu â Mark Drakeford a Julie James yn galw arnynt i weithredu’n “gadarn ac ar frys”.
Mae gofynion y mudiad yn cynnwys:
- Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref i greu Dosbarth Defnydd penodol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr, a sicrhau bod angen caniatâd cynllunio gan awdurdod lleol ar gyfer troi tŷ yn dŷ gwyliau tymor-byr neu’n ail gartref, neu ar gyfer defnyddio tŷ newydd fel tŷ gwyliau tymor-byr neu ail gartref.
- Rhoi grym i awdurdodau lleol weithredu system drwyddedu orfodol ar gyfer llety gwyliau.
- Gwahardd ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr rhag bod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad o ardrethi annomestig.
‘Materion pwysig i Lywodraeth Cymru’
Yn ei ymateb i golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn ymwybodol o bryderon am ail gartrefi mewn cymunedau mewn rhai rhannau o Gymru.
“Mae’r rhain yn faterion pwysig i Lywodraeth Cymru.
“Mae Gweinidogion wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol i archwilio i atebion effeithiol a chytbwys gan adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes yn nhymor y Senedd hon.”