Mae pum person ifanc wedi cael eu harestio ar ôl i fachgen, 13, farw ar ôl cael ei drywanu yn Reading, meddai Heddlu Dyffryn Tafwys.

Mae’r pedwar bachgen a merch, sydd rhwng 13 a 14 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 4pm ddydd Sul (Ionawr 3) yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi cael eu trywanu yng nghaeau Bugs Bottom, Emmer Green.

Roedd y bachgen wedi marw yn y fan a’r lle.

Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.