Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, wedi gwrthod diystyru cyfnod clo cenedlaethol arall wrth i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws barhau i ledaenu’n gyflym.

Ond mae Matt Hancock wedi croesawu dosbarthiad brechlyn Rhydychen/AstraZeneca heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4).

Dyn 82 oed, Brian Pinker, sy’n glaf dialysis, oedd y person cyntaf i dderbyn y brechlyn yn Rhydychen heddiw.

Dywedodd Matt Hancock bod gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) y capasiti i ddosbarthu hyd at 2 filiwn dos o’r brechlyn bob wythnos unwaith fyddan nhw’n derbyn cyflenwadau gan y gwneuthurwyr.

Ond gyda’r ffigurau diweddara yn dangos cynnydd o 33% mewn cleifion sydd a’r coronafeirws mewn ysbytai yn Lloegr rhwng Dydd Nadolig ac Ionawr 2, mae wedi rhybuddio bod “wythnosau anodd iawn i ddod”.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi dweud y bydd mesurau llymach yn cael eu cyflwyno’n fuan er mwyn rheoli’r firws. Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn gwneud popeth posib i gadw pobl yn ddiogel ond bod yn rhaid i’r cyhoedd fod yn “ddisgybledig” hefyd.

Cyfyngiadau presennol yn “annigonol”

Pan ofynnwyd i Matt Hanock heddiw a oedd cyfnod clo cenedlaethol arall yn bosib, dywedodd bod y cyfyngiadau presennol yn annigonol i geisio rheoli lledaeniad y firws.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd wrth Sky News: “Dy’n ni ddim wedi diystyru unrhyw beth, ac ry’n ni wedi dangos droeon y byddwn ni’n edrych ar y cyngor iechyd cyhoeddus ac yn cymryd y cyngor o ran beth sydd angen ei wneud i reoli lledaeniad yr haint.

“Mae’r amrywiolyn newydd yn lledaenu’n llawer haws ac ry’n ni bellach yn gweld effaith hynny mewn llawer o wahanol rannau o’r wlad yn anffodus.

“Ac mae’n golygu, er bod yr Haen 3 blaenorol yn gallu cyfyngu’r hen amrywiolyn, mae hynny’n profi’n gynyddol anodd ym mhob rhan o’r wlad.”

Daw ei rybudd wrth i Senedd yr Alban ymgynnull i ystyried cyfyngiadau pellach yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion yno.

Risg i athrawon

Serch y pryderon, mae Matt Hancock yn mynnu ei bod yn ddiogel ail-agor ysgolion cynradd ar wahân i’r rhai mewn llefydd sydd wedi’u heffeithio waethaf yn Lloegr, yn dilyn gwyliau’r Nadolig.

Dywedodd nad oedd athrawon yn wynebu mwy o risg o gael eu heintio na gweddill y boblogaeth. Ond mae Boris Johnson dan bwysau gan yr undebau addysg i oedi cyn caniatáu i ddisgyblion ddychwelyd i’r dosbarth nes bod diogelwch staff a disgyblion yn cael ei sicrhau.

Mewn datganiad ar y cyd mae’r undebau addysg wedi dweud bod cyhoeddiad y Llywodraeth am ail-agor ysgolion wedi achosi “dryswch i athrawon, staff ysgolion a rhieni.”

“Mae dod a’r holl ddisgyblion yn ôl i’r dosbarth tra bod cyfraddau’r haint yn dal mor uchel yn golygu bod gweithwyr yn y sector addysg yn wynebu’r risg o fod yn sâl ac fe allai wneud y pandemig yn waeth,” meddai’r undebau GMB, NAHT, NASUWT, NEU, Unsain a Unite.