Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddf a fyddai’n caniatáu gohirio etholiad y Senedd, sydd i fod i gael ei gynnal ar Fai 6 2021, hyd at chwe mis.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “parhau i fod yn ymrwymedig i etholiad Senedd ym mis Mai” ond ei bod hi’n “gyfrifol” i gyflwyno deddf “a fyddai’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd”.
Gallai Llywydd y Senedd, Elin Jones, ohirio’r etholiad hyd at fis, ond byddai’r ddeddf newydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ohirio’r etholiad hyd at chwe mis.
Byddai angen i ddau draean, neu 40 o’r 60 o Aelodau o’r Senedd gefnogi’r ddeddf er mwyn caniatáu gohirio’r etholiad am chwe mis.
“Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i etholiad Senedd ym mis Mai eleni ond o dan yr amgylchiadau sy’n ein hwynebu, yn syml, mae’n gyfrifol i roi bil ar y llyfr statud a fyddai’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y dyddiad hwnnw pe bai hynny’n angenrheidiol, a byddwn yn cychwyn ar y broses honno yn gynnar yn y tymor sydd i ddod,” meddai Mark Drakeford mewn cyfweliad â’r BBC ddydd Sul (Ionawr 3).
“Mae gwir angen etholiad ar y Senedd. Mae’n rhaid i ni ei wneud o dan amgylchiadau sy’n ddiogel ac sydd ddim yn atal pobl rhag mynd i’r blychau pleidleisio.
“Byddwn yn defnyddio’r pwerau os ydyn nhw’n angenrheidiol, ond fy ngobaith yw y byddwn ni’n gallu cynnal yr etholiad hwnnw ym mis Mai”.
Plaid Cymru eisiau “sicrhau etholiad diogel i bob pleidleisiwr yng Nghymru”
Mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi’n “rhesymol” gallu gohirio etholiad 2021 gan fod y blaid eisiau “sicrhau etholiad diogel i bob pleidleisiwr yng Nghymru”.
“Mae’n rhesymol y dylem fod â’r gallu i ymateb i bob senario a all ein hwynebu, a bydd Plaid Cymru yn gweithio’n adeiladol i sicrhau etholiad teg a thryloyw, gan alluogi newid llywodraeth sydd ei angen yn fawr,” meddai llefarydd ar ran y Blaid.
Gohirio’r etholiad yn “destun pryder”, medd Paul Davies
Ond dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: “Dywedodd y prif weinidog ei fod yn cytuno â ni y dylid cynnal etholiadau Senedd Cymru ar Fai 6.
“Mae’n destun pryder bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflwyno deddf a fyddai’n galluogi symud y dyddiad hwnnw.
“Mae gan newid dyddiad yr etholiad oblygiadau enfawr a bydd llawer o bobl yn teimlo eu bod yn colli eu llais.
“Mae gen i bob hyder y gall ein swyddogion etholiadol gynnal etholiad diogel ar Fai 6, gan ddysgu o’r llu o etholiadau sydd wedi digwydd ledled y byd yn ystod y pandemig.”