Tyfodd lefelau gweithgynhyrchu’n gyflymach ym mis Rhagfyr nag ar unrhyw adeg yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd.

Ond mae ymchwilwyr wedi rhybuddio bod hynny yn bennaf oherwydd bod pobl yn pentyrru cyn Brexit.

Roedd archebion wedi cael eu cyflwyno yn gynt na’r disgwyl cyn diwedd cyfnod pontio Brexit, a oedd yn dod i ben ar Ragfyr 31, ac mae ymchwilwyr wedi rhybuddio y gallai’r sector ddirywio yn ystod misoedd cyntaf 2021.

Roedd oedi mewn porthladdoedd a phroblemau logistaidd hefyd wedi arwain at oedi yn y gadwyn gyflenwi, meddai’r arolwg.

Cododd allbwn am y seithfed mis yn olynol ym mis Rhagfyr, er i raddau llai nag ym mis Tachwedd.

Roedd gwerthiant nwyddau traul wedi gostwng ym mis Tachwedd, ond roedd diwedd y cyfyngiadau symud ac ailagor yr holl fanwerthwyr ar ddechrau mis Rhagfyr wedi bod yn hwb.

“Testun pryder”

Dywedodd Rob Dobson, cyfarwyddwr IHS Markit, sy’n llunio’r arolwg: “Daeth cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sydd wedi’u lleoli yn yr Undeb Ewropeaidd, ag archebion ymlaen, gan roi hwb dros dro i werthiant.

“Mae’n ymddangos yn debygol y bydd yr hwb hwn yn gwrthdroi yn ystod misoedd agoriadol 2021, gan arwain at ddechrau gwan i’r flwyddyn.

“Mae’n destun pryder bod y sector gweithgynhyrchu eisoes yn delio ag oedi yn y gadwyn gyflenwi hyd yn oed cyn atal llongau rhwng Dover a Calais.

“Nododd gweithgynhyrchwyr oedi wrth gludo nwyddau – yn enwedig mewn porthladdoedd – yn ogystal â phrinder deunyddiau crai penodol a diffyg capasiti cyflenwyr.”

Gostyngodd optimistiaeth busnes ym mis Rhagfyr hefyd, gyda 56% o gynhyrchwyr yn rhagweld y bydd allbwn yn codi dros y 12 mis nesaf, o’i gymharu â 61% ym mis Tachwedd.

“Mae gan wneuthurwyr y Deyrnas Unedig lawer i boeni amdano o hyd”

Ychwanegodd Duncan Brock, cyfarwyddwr grŵp y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS): “Ar ôl blwyddyn gythryblus iawn, mae gan wneuthurwyr y Deyrnas Unedig lawer i boeni amdano o hyd.

“Mae nifer y swyddi’n parhau i ostwng, ac mae prinder deunyddiau wedi arwain at gostau’n chwyddo i’w lefel uchaf ers 2018.

“Mae’r sector yn dal ei anadl nes bod telerau’r cytundeb newydd yn cael eu deall yn llawn a nes mae’n dod i’r amlwg a ellir cynnal busnes newydd yn yr un modd mewn marchnad ar ôl Brexit.”