Mae sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, wedi ennill ei frwydr i osgoi cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.
Dyfarnodd y barnwr Vanessa Baraitser yn yr Old Bailey heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4) bod yna risg gwirioneddol o hunanladdiad, ac oherwydd hynny na ddylai Julian Assange, 49, gael ei estraddodi am “resymau iechyd meddwl.”
Roedd Julian Assange yn yr Old Bailey i glywed y dyfarniad. Mae’n debyg na fydd yn cael ei ryddhau o Garchar Belmarsh yn syth gan fod disgwyl i lywodraeth yr Unol Daleithiau apelio, ond mae hawl ganddo i wneud cais newydd am fechnïaeth.
Mae Julian Assange yn wynebu 18 cyhuddiad gan gynnwys honiadau o gynllwynio i hacio cyfrifiaduron a chynllwynio i ddatgelu manylion cudd-wybodaeth.
Daw’r achos ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi cannoedd ar filoedd o ddogfennau rhwng 2010 a 2011 yn ymwneud a rhyfeloedd Irac ac Affganistan, yn ogystal â gwybodaeth ddiplomyddol.
Yn ôl erlynwyr roedd Julian Assange wedi helpu’r dadansoddwr cudd-wybodaeth Chelsea Manning i dorri’r Ddeddf Ysbio er mwyn cael mynediad anghyfreithlon at y wybodaeth, wedi cyfrannu at hacio cyfrifiaduron gan eraill, a chyhoeddi cudd-wybodaeth oedd wedi rhoi bywydau achwynwyr yn yr Unol Daleithiau mewn perygl.
Mae Julian Assange yn gwadu cynllwynio gyda Chelsea Manning i hacio cyfrifiaduron Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau ac yn dweud nad oes tystiolaeth bod diogelwch unrhyw un wedi cael ei beryglu.
Roedd ei dim cyfreithiol wedi dweud bod Julian Assange wedi cael diagnosis o syndrom Asperger ac iselder difrifol a bod risg sylweddol y gallai lladd ei hun petai’n cael ei estraddodi.
Wrth gyflwyno ei dedfryd dywedodd y barnwr bod Julian Assange yn “wynebu amodau o gael ei gadw yn hollol ynysig” tra’n cael ei gadw yn y ddalfa yn yr Unol Daleithiau a’i bod o’r farn na fyddai’r awdurdodau yno yn gallu ei atal “rhag dod o hyd i ffordd o ladd ei hun.”
Ond roedd y barnwr wedi gwrthod dadleuon yr amddiffyniad am ryddid mynegiant a bod cymhelliad gwleidyddol y tu ôl i’r penderfyniad i ddwyn yr achos.