Mae’r amrywiolyn newydd o Covid-19 yn “lledaenu’n gyflym drwy Gymru”, meddai’r Gweinidog Iechyd heddiw (Dydd Llun, Ionawr 4).

Dywedodd Vaughan Gething mewn cynhadledd i’r wasg bod achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn “parhau’n uchel iawn” ond bod cyfraddau wedi gostwng “o’r lefelau hynod o uchel” a welwyd ychydig cyn y Nadolig.

Mae nifer yr achosion wedi gostwng o 636 am bob 100,000 o bobl ar Ragfyr 17 i 446 o achosion heddiw, meddai Vaughan Gething.

“Llawer rhy uchel”

“Mae hyn yn parhau’n llawer rhy uchel. Mae gostyngiad wedi bod yn y rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru, ar wahân i ogledd Cymru lle ry’n ni’n gweld nifer yr achosion yn cynyddu’n gyflym. Ry’n ni’n credu bod hyn oherwydd yr amrywiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym.

“Mae’n rhy gynnar i wybod a yw’r gostyngiad yma oherwydd cyfnod y Nadolig a bod llai o bobl yn mynd am brofion neu os oes arwyddion cynnar, positif bod y firws ofnadwy yma’n arafu.”

Dywedodd Vaughan Gething tra bod nifer y bobl sy’n cael profion wedi gostwng, mae cyfradd y profion positif ar draws Cymru yn 25%.

Mae bron i 2,700 o gleifion sydd a coronafeirws mewn ysbytai ar draws Cymru, ychwanegodd Vaughan Gething, gyda 208 o gleifion yn cael gofal dwys, a mwy na hanner o’r rheiny wedi’u heintio a’r coronafeirws.

“Yn anffodus ry’n ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n marw ar ôl cael eu heintio a’r coronafeirws dros gyfnod y Nadolig,” meddai.

Mae mwy na 35,000 o bobl yng Nghymru wedi cael brechlyn Pfizer/BioNTech ers iddo gael ei gymeradwyo, yn bennaf gweithwyr iechyd rheng flaen a staff gofal, yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal a phobl dros 80 oed.

Brechlyn

Mae’r ail frechlyn coronafeirws sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig wedi dechrau cael ei ddosbarthu ar draws Cymru heddiw.

Dywedodd Vaughan Gething bod brechlyn Rhydychen/ AstraZeneca yn “garreg filltir allweddol” gan fod modd ei storio yn yr oergell ac yn haws i’w gludo.

“Mae’n golygu y bydd yn ein helpu i gyflymu ein rhaglen frechu a chynnal mwy o glinigau yn nes at gartrefi pobl,” meddai.

Mae Cymru wedi derbyn ei chyflenwad cychwynnol o 22,000 dos o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca ac mae’r pigiadau cyntaf yn cael eu rhoi ddydd Llun, mae’r gweinidog iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau.

Fe fydd o leiaf 40,000 dos o’r brechlyn AstraZeneca ar gael o fewn y pythefnos nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd nifer y canolfannau brechu torfol yng Nghymru yn codi o 14 i 22, bydd dros 60 o feddygfeydd yn darparu brechlyn Rhydychen a bydd unedau symudol yn cael eu sefydlu ledled y wlad.

Mae gweithwyr gofal iechyd yn cael eu hyfforddi i weinyddu’r brechlyn, gyda chynlluniau i weithio gyda “fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion lleol” i ddarparu clinigau brechu, meddai Mr Gething.

“Cwestiynau difrifol yn parhau” ynglyn â chyflwyno brechlynnau, medd Plaid Cymru

Cymru wedi bod y tu ôl i “bob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig” o ran y niferoedd brechu, yn ôl Rhun ap Iorwerth