Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn galw am gysondeb cyn gêm gynta’r flwyddyn yn y Bencampwriaeth.

Mae’r Adar Gleision yn teithio i Rotherham gan obeithio gwyrdroi rhediad o dair colled o’r bron wrth i’r tymor dynnu tua’r hanner ffordd.

“Rydych chi eisiau edrych ar dabl y gynghrair a dweud, “Reit, mae gyda ni waith i’w wneud”, ac adeiladu momentwm,” meddai.

“Rydyn ni eisiau bod yn llwyddiannus.

“Aethon ni ar rediad o ennill pedair gêm i’n cael ni i gyrion y gemau ail gyfle eto.

“Rydyn ni wedi colli tair o’r bron erbyn hyn a dydyn ni ddim eisiau bod y tîm io-io hwnnw.

“Rydyn ni eisiau cysondeb ac rydyn ni wedi bod yn ysu am hynny drwy gydol y tymor.

“Rydyn ni’n siarad am adeiladu momentwm ac mae’n bwysig ein bod ni’n ymateb. Mater o berfformiad yw hynny, ond yn bwysicach y canlyniad.

“Rydyn ni wedi dangos ein bod ni’n gallu ennill gemau o’r bron, ond dim ond gyda chysondeb gewch chi hynny.”