Ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yw’r nod i dîm pêl-droed Abertawe, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper ar drothwy gêm gynta’r flwyddyn yn erbyn Watford yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Roedd yr Elyrch yn drydydd yn y tabl ar ddiwedd 2020 ac maen nhw am sicrhau eu bod yn gwella ar eu perfformiad y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Ond roedden nhw ymhlith y timau gorau yn y gynghrair y tymor diwethaf.

Hanner ffordd drwy’r tymor hwn, mae ganddyn nhw 40 o bwyntiau o’u 22 gêm hyd yn hyn ac fe fyddai cyfanswm o 43 pwynt erbyn hanner ffordd yn dipyn o gamp i’r tîm ifanc.

Edrych ymlaen

Serch hynny, un gêm ar y tro yw dull Steve Cooper o hyd – neges mae e wedi’i hategu sawl gwaith y tymor hwn.

“Dyma’r adeg i edrych ymlaen yn sicr,” meddai.

“Dydy hi ddim wedi bod yn flwyddyn dda yn nhermau’r hyn sydd wedi digwydd yn y byd a’r Deyrnas Unedig, yn enwedig yng Nghymru ac Abertawe.

“Rydyn ni wedi cael ein heffeithio gymaint ag unrhyw un arall, ac mae’n fater o ddod ynghyd fel cymuned i ddod drwy’r adeg anodd hon.

“Yn nhermau pêl-droed, rydyn ni’n falch ar y cyfan gyda’n cynnydd ni.

“Rydyn ni’n dal i deimlo ein bod ni ar siwrnai i le’r ydyn ni am fod yn y pen draw, heb roi amser penodol ar hynny.

“Rydyn ni’n gwybod fod ffordd bell i fynd o hyd, ond byddwn ni’n parhau â’n gwaith, yn ymrwymo i hynny ac i weithio gyda’n chwaraewyr ifainc a’i gwneud hi ein ffordd ni.”