Bu’n rhaid i’r Gleision chwarae ag 14 dyn am hanner awr o’r gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch yn y PRO14 yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw golli o 17-3.
Fe gawson nhw dri cherdyn melyn yn ystod yr ail hanner, gyda’r blaenwyr Seb Davies, Dmitri Arhip a Scott Andrews i gyd yn gorfod gadael y cae am ddeng munud.
Fe wnaeth y Gweilch hefyd weld un o’u chwaraewyr yn mynd i’r gell gosb, gyda Dan Lydiate mewn perygl o weld cerdyn coch am dacl uchel ar Jason Tovey toc cyn yr egwyl.
Daeth unig gais yr hanner cyntaf i’r bachwr Ifan Phillips, ac fe wnaeth Tovey ymateb gyda chic gosb i’w gwneud hi’n 7-3 i’r ymwelwyr ar yr egwyl.
Ail hanner
Methodd Stephen Myler â chic gosb yn fuan wedi’r egwyl cyn i’r Gleision fynd i lawr i 14 dyn wrth i Seb Davies dynnu’r lein i lawr yn anghyfreithlon.
Ciciodd Myler gic gosb ar ôl 55 munud wrth i’r Gweilch fagu hyder.
Gwelodd Arhip gerdyn melyn am dynnu’r sgarmes i lawr yn anghyfreithlon, a chafodd y Gweilch gais cosb.
Gwelodd Andrews gerdyn melyn ar ôl 67 munud am drosedd yn y sgrym, gyda’r Gleision i lawr i 13 dyn am gyfnod byr.