Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr Gerry Marsden, prif leisydd Gerry and the Pacemakers, sydd wedi marw’n 78 oed.

Cafodd y newyddion ei dorri gan ei ffrind, y cyflwynydd radio Pete Price, a ddywedodd ei fod e wedi cael haint yn ei galon yn ddiweddar.

Mae’r band yn fwyaf adnabyddus am ganeuon fel You’ll Never Walk Alone, anthem Clwb Pêl-droed Lerpwl sydd wedi’i recordio gan Michael Ball a’r Capten Syr Tom Moore ers pandemig y coronafeirws yn deyrnged i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a ‘Ferry Cross the Mersey’.

Dywedodd y clwb enwog The Cavern yn Lerpwl, lle perfformiodd y band bron i 200 o weithiau, ei fod yn “ffrind da iawn” iddyn nhw, ac fe ddywedodd y cyflwynydd radio Mike Read ei fod e “mor drist” o glywed y newyddion.

“Diolch am ddwy anthem,” medd neges ar dudalen y band Frankie Goes To Hollywood.

Ac ychwanegodd The Beatles Story, amgueddfa gerddoriaeth yn Lerpwl, “Fel The Beatles, roedd Gerry and the Pacemakers yn brif chwaraewyr ar y sîn Merseybeat, genre o gerddoriaeth a ddatblygodd yn Lerpwl yn niwedd y 50au.”

Teyrngedau Clwb Pêl-droed Lerpwl

Mae Clwb Pêl-droed wedi bod yn trydar cyfres o negeseuon yn deyrnged iddo.