Mae un o’r clasuron Nadoligaidd wedi cyrraedd rhif un siartiau Prydain am y tro cyntaf – 36 o flynyddoedd ers iddi gael ei chyhoeddi.

Cafodd ‘Last Christmas’ gan Wham! ei ffrydio 9.2m o weithiau dros yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei chyhoeddi fis Rhagfyr 1984 ond bryd hynny, cân Band Aid ‘Do They Know It’s Christmas?’ oedd y rhif un Nadoligaidd, a chafodd yr holl elw a ddeilliodd o ‘Last Christmas’ ei roi i’r elusen.

Fe fu ymgyrch ar droed ers 2017, flwyddyn wedi i George Michael farw ar Ddydd Nadolig, i sicrhau bod y gân yn cymryd ei lle teilwng ar frig y siartiau o’r diwedd.

Cyrhaeddodd y gân rif dau yn y siartiau bryd hynny.

Mae Andrew Ridgeley, ei gyd-aelod yn Wham!, wedi dweud ei fod e wrth ei fodd a bod y newyddion yn “deyrnged deilwng” i George Michael.

Mae’r gân wedi ymddangos ymhlith y deg uchaf saith gwaith i gyd.

Tan yr wythnos hon, ‘Last Christmas’ oedd y sengl werthodd orau wrth fethu â chyrraedd rhif un – record sydd bellach yn nwylo Maroon 5 am y gân ‘Moves Like Jagger’ (2011).

Ond mae gan ‘Last Christmas’ record newydd bellach, am y cyfnod hiraf rhwng ei chyhoeddi a chyrraedd rhif un, gan guro’r 34 mlynedd gymerodd hi i ‘Amarillo’ gan Tony Christie gyrraedd y brig yn 2005.