Ai’r pedwarawd o Abertawe fydd grŵp mwya’ cyffrous 2021? Mae rheolwr y label sydd newydd eu harwyddo nhw yn reit bendant am hynny…

“Dw i yn convinced mai band mawr Cymreig y flwyddyn nesaf yw Bandicoot o Abertawe. Maen nhw’n grêt.”

Dyma sut ddechreuodd y sgwrs rhwng y Babell a Gruff Owen, rheolwr label Libertino, am y grŵp Bandicoot, y mae e wedi bod yn gweithio’n dawel bach gyda nhw ers blwyddyn.