Fe fu’n rhaid i hanesydd amlwg o Gymru wadu honiadau ei fod yn wrth-Seisnig mewn sgwrs yng ngŵyl lenyddol y Gelli Gandryll fore Llun diwetha’.

Roedd John Davies yn cymryd rhan mewn sgwrs ochr yn ochr â hanesydd Saesneg o dan y teitl ‘England and the Celts’.

Hon oedd yr ail sesiwn drafod sy’ wedi codi o gyfres yr oedd yr hanesydd Christopher Lee wedi gweithio arni ar gyfer BBC Worldwide, This Sceptred Isle.

Yn ôl John Davies, awdur Hanes Cymru, doedd yr hanesydd arall ddim wedi paratoi digon ac roedd o’i agweddau tuag at hanes Prydain yn “hen-ffasiwn” dros ben.

Dyma’r ail dro i John Davies siarad yn yr ŵyl

“Oedd e ddim wedi ei gynllunio o gwbl,” meddai John Davies, “yn ôl y gwahoddiad ges i, o’n i fod i roi rhyw air ar y cysylltiad ar wahanol elfennau yn hanes Prydain.”

Roedd Christopher Lee wedi troi’r sgwrs yn ôl at bwysigrwydd brenhinoedd Lloegr hanes Prydain bob tro.

“O’n i ddim yn gwybod be’ i’w ddisgwyl,” meddai John Davies. “Teimlo o’n i mai ryw ffasiwn ry’n ni wedi cefnu arno fe yw ystyried mai hanes yw ‘Kings and Queens of England’. Hynny yw, erbyn bod fi’n mynd i’r ysgol roedd hwnna’n hen-ffasiwn. Fel tae yna ryw ymgais i ddod ag e nôl, fel sa’r peth hanfodol yw’r stori gyffrous am frenhinoedd.”

Roedd John Davies hefyd wedi datgan ei anfodlonrwydd ag enw’r gyfres BBC, This Sceptred Isle, yn ystod y sgwrs, gan ddweud: “It’s all about England, and England is not an island by the way.

“O’n i’n gobeithio nad o’n i’n anghwrtais,” meddai, “ond roedd ’na amserau pan oedd rhai o’i agweddau e yn mynd lan fy nhrwyn i.

“O’n i’n teimlo ei fod e wedi dod heb baratoi ac o’n i’n meddwl bod waeth i fi ei oleuo fe ar rai materion.”

Roedd nifer o’r gynulleidfa, a oedd yn ychydig gannoedd, wedi cymeradwyo nifer o’r pethau a ddywedodd John Davies mewn ymateb i ddatganiadau Christopher Lee.

“O’n i’n meddwl hefyd bod e fel tae e wedi rhyfeddu bod yna bobol yn y gynulleidfa,” meddai’r hanesydd o Gymro, “achos o’n nhw’n cymeradwyo ac yn y blaen, yn teimlo mai at Gymru oedd eu prif deyrngarwch nhw.

“Dw i ddim yn credu, a bod yn hollol onest, bod e wedi cymryd ’mlaen y ffaith bod y Gelli yng Nghymru fel petai.”

Ar y diwedd, fe ofynnodd rhywun o’r gynulleidfa gwestiwn iddo gan ddweud bod y gynulleidfa’n ymateb ar ôl iddo ddweud rhywbeth ‘gwrth-Seisning’ a ‘phro-Gymreig’.

Ymateb John Davies oedd, “For a start, I haven’t been saying anything anti-English, I’ve just put the facts before you.’

“Beth o’n i’n trio tynnu sylw ato oedd y ffaith – sy’n digwydd yn aml mewn sgwrs am y cyfnod, drwy gymryd yn ganiataol bod Prydain equals Loegr a lloegr equals Prydain.

“Os chi’n tynnu sylw at y ffaith bod chi ddim yn credu bod hynny’n wir, dw i ddim yn credu bod hynny ynddo’i hunan yn wrth-Seisnig.”

I gloi, fe ymatebodd Christopher Lee drwy roi’r honiad bod Cymro, neu Wyddel, neu Albanwr yn gallu mynd i Loegr a mabwysiadu acen Seisnig, ond nad yw hynny’n dderbyniol os bydd Sais yn dod i Gymru a cheisio mabwysiadu acen Gymraeg, gan ategu ‘the English sit there and take all the stick about the English.’

Ymateb John Davies oedd, ‘Two of my grandparents come from Worcesteshire. I remember them clearly, they had a beautiful Treorchy accent.’