Yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, mae Brexit yn golygu bod angen sicrhau Cynulliad Cenedlaethol cryfach i Gymru.

Roedd yn siarad â Golwg ar drothwy ei ben-blwydd yn 70 oed, gan edrych yn ôl ar gyfnod o bron i 50 mlynedd yng nghanol byd gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain.

Er nad yw Dafydd Elis-Thomas yn argymell y dylai fod ail bleidlais ar aelodaeth y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd, mae angen creu Cynulliad a Llywodraeth gryfach, meddai, i “fod yn bartner mwy cyfartal yn beth sydd ar ôl o’r Deyrnas Unedig.”

Mae hefyd angen i Gymru fasnachu â gwledydd y byd yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu beidio.

“Mae pobol yn mynd o gwmpas yn dweud ‘ni’n derbyn y canlyniad’ [y refferendwm], wel mae hynny fatha dweud am gêm ffwtbol wnes i golli – ‘dw i’n derbyn y canlyniad’. Na, beth ydach chi’n gwneud ydy mynd ati ar ôl y gêm nesa’ a’r gêm nesa’ ydy cryfhau’r Cynulliad yma,” meddai.

“Y peth pwysicaf i ni fel cenedl fach o dair miliwn ydy gallu parhau i gynhyrchu deunydd o ansawdd a’i allforio fo, i’w werthu o.

“Gwerthu cig oen Cymru, sy’n bwysig iawn i mi achos yr ardal dw i’n cynrychioli, a gwerthu pysgod o Gymru, gwerthu beth bynnag ydy ein cynnyrch ni yn niwydiant cynhyrchu rhannau o awyrennau neu beiriannau.

“Dw i ddim yn credu mewn cau ffiniau a chau ffiniau masnach o gwbl oherwydd mae hynny’n arwain i dlodi pawb yn gyffredinol.”

Cynyddu nifer Aelodau

Fe fyddai modd cryfhau’r Cynulliad drwy gynyddu nifer yr aelodau, meddai, ac mae Bil Cymru yn “gyfle” i wneud hynny.

Ond mae’r Bil, sydd newydd gael ei ailddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi a’i feirniadu’n llym gan arglwyddi o Gymru o bob plaid, yn “rhwystro” datganoli, meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Mae gynnon ni rŵan gyfle gyda’r Bil Cymru ‘ma, y rhannau dw i’n cytuno â nhw, rydan ni’n cael hawl dros y system bleidleisio a dros nifer yr Aelodau,” meddai wrth Golwg.

Mae’n awgrymu cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 87, gan ddilyn ffiniau newydd etholaethau San Steffan ond cael tri aelod ymhob etholaeth newydd.

A dylai’r Cynulliad fabwysiadu system bleidleisio gyfrannol, meddai, os bydd yn cynyddu ei aelodau, sy’n llawer “tecach” na’r system rhestru bresennol.

“Wedi’r cyfan, mi ganiatawyd i blaid [UKIP], oedd heb ymgyrchu braidd dim i gerdded i mewn am fod nhw wedi gallu cipio sedd[i] ar y rhestr, ac mae pobol dw i’n meddwl yn gweld bod hwnna ddim yn rhesymol.

“Pe bae gynnoch chi dros 80 o aelodau, buasech chi’n gallu cael mwy o ddewis pobol i fod mewn llywodraeth a mwy o bobol i allu ymwneud â’r gwaith pwysig o ddod â’r llywodraeth i gyfri a chraffu.

“Dw i eisiau gweld Cynulliad cryf, Llywodraeth gadarn, a dyna pam dw i’n meddwl y dylai pleidiau gwleidyddol, lle nad oes fwyafrif dros bawb yn y lle ‘ma [y Cynulliad] fod yn gweithio efo’i gilydd.”

“Cega” yn y Cynulliad

Dyw Plaid Cymru ddim wedi llwyddo i ddangos ei bod yn “ddewis gwell” na’r Blaid Lafur sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru am 17 o flynyddoedd, yn ôl Dafydd Elis-Thomas.

“Mae pobol Cymru wedi parhau’n deyrngar i’r Blaid Lafur, am y rheswm nad ydyn nhw wedi gweld dewis gwell… os ydan ni’n ddewis gwell, mae eisiau i ni ddangos hynny yn lle treulio’r holl amser yn lladd arnyn nhw,” meddai.

“Os ydych chi’n siarad yn negyddol drwy’r amser mae pobol yn meddwl eich bod chi’n negyddol a dw i’n meddwl bod ‘na broblem o ddifrif fan ‘na gan Blaid Cymru dros y blynyddoedd.

“Mae ‘na bethau sydd wedi digwydd sy’n dangos bod ynni adeiladol i gael yng Nghymru ond eto pan mae’n dod i wleidyddiaeth a dadleuon fan hyn [y Cynulliad], dw i’n clywed dim byd, dim ond cega…”

Y Chwith Cenedlaethol

Yn ystod ei gyfnod yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991, symudodd Dafydd Elis-Thomas y blaid yn fwy i’r chwith,a chreu mudiad y Chwith Cenedlaethol, “lle’r oedd ‘na gydweithio ar draws ffiniau pleidiau”.

Ond mae’n mynnu nad oes dim tebygrwydd i’r hyn y mae Jeremy Corbyn yn ceisio ei wneud yn y Blaid Lafur heddiw.

“Doedden ni ddim yn edrych arno fo fel rhywbeth tebyg i’r Momentwm yn y Blaid Lafur, sy’n wahoddiad i dynnu rhyw bobol i mewn. Mae hynny’n rhywbeth hollol wahanol i beth roedden ni’n trio ei wneud,” meddai.

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni wedi gosod sylfaen yn y cyfnod yna i berthynas i symud ymlaen tuag at ddatganoli a dyna be’ oedd y peth pwysig.

“Ymateb oedd hynna i gyd i gyfnod llywodraeth Thatcher ac i bethau fel streic y glowyr oedd yn rhywbeth hollol amlwg a syml i fi oherwydd bod fy nheulu i wedi bod yn y diwydiant llechi ac yn y diwydiant glo.

“Dw i’n perthyn yn sicr i draddodiad y chwith ac i’r traddodiad sosialaidd ond mae fy nehongliad i o sosialaeth y dyddiau hyn yn gwbl wahanol i beth fyddai’r dehongliad wedi cael ei bwysleisio gan rywun fel Jeremy Corbyn oherwydd mae’n ymddangos i fi bod Jeremy Corbyn yn unoliaethwr gwladwriaethol.

“Ond dw i’n gofidio am sefyllfa’r Blaid Lafur yn Lloegr am ei phosibilrwydd o gael ei hethol i’r Deyrnas Unedig eto. Ond wedi dweud hynny, dw i’n croesawu’r holl symudiadau tuag at gryfhau a datganoli’r Blaid Lafur yng Nghymru a dw i’n meddwl ei bod yn bosib gwneud busnes efo nhw o hyd.”

Annibyniaeth i Gymru?

Nid prif nod y Blaid, meddai, yw annibyniaeth i Gymru ond “gwasanaethu pobol Cymru a datblygu democratiaeth Cymru”.

“Ymreolaeth oedd y gair oeddwn i’n arfer ag o – Senedd i Gymru ac rydan ni wedi cael un, felly dw i’n meddwl mai swyddogaeth Plaid Cymru ydy nid creu rhyw ddyhead am rywbeth nad ydy e’n bod.”

Nid yw’r un wlad yn gallu bod yn “sofran annibynnol”, meddai Dafydd Elis-Thomas, am nad oes y fath beth yn bodoli.

“Dw i erioed wedi [credu mewn annibyniaeth i Gymru]. Dw i ddim yn credu mewn annibyniaeth i neb, dw i ddim yn credu mewn annibyniaeth i Loegr, dw i ddim yn credu mewn annibyniaeth i’r Deyrnas Unedig, does ‘na ddim fath beth.”

“Cenedlaetholdeb Prydeinig”

Mae Dafydd Elis-Thomas yn cydnabod mai’r dosbarth gwleidyddol a gollodd y refferendwm ar Ewrop, ond dyw e ddim yn cytuno bod Plaid Cymru wedi mynd yn rhy sefydliadol a bod pobol felly wedi troi at UKIP.

“Cenedlaetholdeb Prydeinig” sydd wedi arwain at dwf UKIP, a thrwy hynny mae’n golygu “gwrthwynebiad i bobol o weddill yr Undeb Ewropeaidd i gael swyddi yng Nghymru.

“Beth sy’n fy mhoeni i fwyaf ynglŷn â hyn i gyd [yw] bod ‘na gymaint o siarad am gau ffiniau, oherwydd beth sy’n bwysig i fi am Gymru, [yw] bod ni’n wlad sydd wedi cadw a chynnal ein cymeriad fel gwlad, ein cenedligrwydd a’n hiaith a’r pethau ‘ma i gyd, gyda ffiniau agored gyda’r wlad agosaf atom ers y flwyddyn 800,” meddai.

“Ac wedyn mae gynnon ni bobol rŵan yn dweud mae’n rhaid i ni stopio pobol ddod i mewn, bod nhw’n difetha ein gwlad ni ac yn y blaen, dw i’n meddwl mai cenedlaetholdeb o’r math gwaethaf ydy hwnnw.

“A dw i ddim yn siŵr erbyn hyn os oes ‘na fath beth â chenedlaetholdeb sydd yn dda, oherwydd dw i wedi clywed cymaint o achosion o genedlaetholdeb yn beth negyddol mewn cymaint o wledydd.”

“Dim ond 70 ydw i”

Ar drothwy ei ben-blwydd ar ddydd Mawrth nesaf, mae Dafydd Elis-Thomas yn mynnu nad oes dim bwriad ganddo roi’r gorau i droedio coridorau’r Cynulliad ar hyn o bryd.

“Dim ond 69 ydw i… wel 70, dyw hwnna ddim yn hen erbyn hyn,” meddai.

Tra’i fod yn dal i loncian tair gwaith yr wythnos ac yn cerdded mynyddoedd, mae’n hollol sicr y bydd yn dal i weithio, meddai, er ei fod yn cydnabod mai “mater i be’ mae pobol eisiau” fydd ei ffawd yn  Aelod Cynulliad, yn enwedig ar drothwy cyfnod lle gallai ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd, ddiflannu dan drefn yr etholaethau newydd.

Does dim bwriad chwaith i fod yn arweinydd ar Blaid Cymru eto, er iddo geisio yn 2012 ond mae ganddo restr o’r hyn hoffai ei gyflawni yn ystod ei amser yn Aelod Cynulliad.

“Mae ‘na un neu ddau o bethau dw i eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn digwydd, sef bod ni’n cael trefn dda o ethol i’r lle ‘ma [y Cynulliad] a bod ni’n gweithredu ar ofalu’n well am yr amgylchedd a thirweddau Cymru,” meddai.

“Ar wahân i hynny hefyd, dw i’n meddwl y dylwn ni edrych eto ar y ffordd rydan ni wedi deddfu ynglŷn â dwyieithrwydd yng Nghymru.

“Mae gynnon ni yma yn y Cynulliad Cenedlaethol Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, does gynnon ni ddim o’r fath beth yng Nghymru’n gyffredinol.

“Fe wnaethon ni fethu’r tro diwethaf a liciwn i fynd yn ôl i fan ‘na os yn bosib, ond rhaid i mi drafod hynny efo Gweinidog yr Iaith Gymraeg, fy hen gyfaill Alun Davies.”