Mae haenau o sŵn gitâr yn creu naws hanner effro i ganeuon newydd Ysgol Sul…

Ar yr EP newydd Huno mae’r band Ysgol Sul wedi cael hyd i sŵn sy’n unigryw i’r Sîn Roc Gymraeg.

Does dim un band arall yn chwarae’r math o gerddoriaeth sydd wedi ei disgrifio fel ‘Llandeilo dream Indie’ ac sy’n defnyddio haenau o riffs gitâr i greu sain sy’n drwchus a breuddwydiol.

Ar ôl ennill Brwydr y Bandiau Maes B 2014, dim ond eu “ail neu trydedd gig ers ffurfio”, fe recordiodd Ysgol Sul gelc o ganeuon i C2 Radio Cymru.

Ond mae’r caneuon newydd ar Huno yn brawf bod y band wedi ffeindio eu traed yn gerddorol.

“Dros amser ryden ni wedi dod i sylweddoli pa fandiau, pa ddylanwade rydyn ni’n rhannu, a pa fandiau yw ein hoff fandiau ni,” eglura’r canwr a’r gitarydd, Iolo Jones. Llew Davies sydd ar y drymiau a Cian Owen ar y bass.

“Ryden ni wastad yn dweud wrth bobol mai’r band Pavement a My Bloody Valnetine yw’r ddau fand y mae’r tri ohonon ni fwyaf cytûn arno… dim bo ni’n efelychu seiniau nhw…”

Ar gân agoriadol y casgliad newydd, ‘Wrth edrych yn ôl’, mae riff melys yn cael ei hailadrodd gan sawl haenen ddofn o gitâr, cyn i’r drymiau a’r bass gicio fewn.

Ac mae yna naws hiraethus iddi. Fe gafodd holl ganeuon yr EP eu hysgrifennu gan Iolo Jones wedi i gyfnod y canwr yn fyfyriwr yn Aberystwyth ddod i ben.

“Fyswn i’n dweud bod sylwedd geiriol y caneuon yn cyfeirio lot at yr ymdeimlad yna” o ddyddiau Coleg yn dod i ben, meddai.

“Sa’ i’n siŵr os taw hiraeth yw’r teimlad. Ond gath y caneuon eu sgrifennu pan ddaeth cyfnod o fy mywyd i ben.”

Tua thri chwarter ffordd drwy ‘Wrth edrych yn ôl’ mae’r gân yn newid gêr ac yn arafu.

Y gwrthwyneb sy’n digwydd ar ‘Dwi ar dân’ wrth iddi gyflymu tuag at y diwedd. Mae amrywio’r tempo yn hynod effeithiol wrth gyfleu’r naws hwnnw o fod rhwng cwsg ag effro.

“Roeddwn i’n hoffi’r syniad o arbrofi gyda strwythurau caneuon,” meddai Iolo Jones, “a bod pethau ddim yn rhy undonog.

“Arbrofi… yn enwedig ar y gân ‘Dwi ar dân’. Dyw e ddim yn gân verse/chorus/verse/chorus.

“Mae’n newid trwy’r amser. Mae’r chord progression yn newid trwy’r amser, a’r tempo yn newid hefyd.”

Bydd sŵn trwchus, aml-haenog Huno – ynghyd â’r lyrics fwriadol amwys – yn atgoffa rhai o naws caneuon Sigur Ros, y band dylanwadol o Wlad yr Iâ.

“Mae’r wlad fach yna wedi bod yn llwyddiannus iawn yn allforio ei hunan i’r byd, yn iaith ei hunan,” meddai Iolo Jones.

“A sa’ i’n credu pam ddyle’r un peth ddim bod yn bosib i’r Cymry.”

Cerrig beddi

Pam galw’r casgliad newydd yn Huno?

“Rydw i’n licio’r syniad o huno, y cysgu, slumber. Mae’r holl albym yn eitha’ breuddwydiol…

“Mae’r term huno hefyd, rydych chi’n gallu ffeindio fe ar gerrig beddi. Rhywbeth ychydig bach mwy morbid. Rydw i’n eitha’ licio’r syniad o decay… dim i fod yn rhy morbid.

“Mae’r esboniad cyntaf ychydig bach mwy light hearted…”