“Ro’n i’n dablo â chyffuriau, yn yfed gormod, yn mynd ar y pull… do’n i ddim yn byw bywyd iachus iawn.”
Fe allai’r dyfyniad yma fod wedi dod o’r nofel ddiweddara’ i ysgwyd seiliau’r cwpwrdd llenyddol Cymraeg, Ffawd Celwydd a Chelwyddau.
Ond yr awdur ei hun sy’ biau’r geiriau, wrth gyfeirio at ei lencyndod yn y ddinas fawr ddrwg, Caerdydd.
Mae nofel Llwyd Owen wedi bod yn chwa o awyr iach ynghanol y pentwr o nofelau Cymraeg y blynyddoedd diwetha’. Mae’r iaith lafar, heriol, real a’i disgrifiadau cwbl gyfoes o fyd y stryd a’r Cyfryngau yn ein prifddinas wedi eu croesawu fel hen ffrind ar faes y Steddfod gan ddarllenwyr ifanc a hen – rhai heb gydio mewn nofel Gymraeg ers dyddiau TGAU.
Wrth gwrs, dyw nofelau trefol, gritty a threisgar ddim yn beth newydd mewn llenyddiaeth Saesneg. Mae awduron fel John Williams wedi hen arfer â darlunio is-fyd tafarnau’r brifddinas droeon.
“Un o fy hoff lyfrau yn y byd,” meddai Llwyd Owen, “yw Cardiff Cut gan Lloyd Robson. Mae’n disgrifio un noson trwy lygaid boi sy’ ar y mission. Ro’n i’n byw bywyd tebyg.”
Serch hynny, mae’r awdur yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn “eitha’ annisgwyl.”
“Ro’n i yn disgwyl backlash,” meddai’r awdur 29 oed â’i acen gre’ Glantaf. “Mae cynnwys y nofel yn chwaeth personol ond o ran yr iaith a’r defnydd o Saesneg, mae lot o bobol wedi dweud ‘pam bod hyn heb ddigwydd o’r blaen?’
“Os bydd pobol yn dilyn, neu’n copïo’r arddull, maen eu rhyddhau nhw i feddwl bod nhw’n gallu ’neud.”
Mae e hefyd wedi synnu at ymateb ei gydweithwyr yn y Cyfryngau – diwydiant sy’ wedi’i wneud yn “grac” yn y gorffennol.
“O’n i’n becso braidd,” meddai Llwyd Owen, “yn meddwl bod pobol yn mynd i fod eitha’ pissed off da fi. Ond nes i ffeindio allan bod pawb mor sinigal â fi. Ry’n ni’n gweithio mewn diwydiant eitha’ od – adlonni pobol ry’n ni’n y pen draw. Dyw e ddim yn brain surgery.”
Daeth y nofel i fodolaeth ar ôl iddo dreulio cyfnod ymhell o Gaerdydd pan oedd yn 23 oed.
Roedd e wedi hen laru ar ei swydd gyda chwmni ôl-gynhyrchu, yn teimlo fel “lowest of the low” ac ôl gweithio fel “glorified lapdog” a “slave”.
Dyma’n union sut mae Luc Swan, prif gymeriad Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn teimlo’n ei swydd ar ddechrau’r nofel. Ond mae surni Luc yn peri iddo weithredu’n llawer mwy eithafol a threisgar na sgrifennu nofel am y peth.
“Chi’n dechre ar y gwaelod,” meddai Llwyd Owen. “O’n i’n gweld lot o bethe afiach – fel nepotisiaeth. It is who you know.
“O’n i eisie rhoi hynna ar draws. Mae pobol yn meddwl bod gweithio i’r cyfryngau yn glamorous, ond far from it.”
Fe ddaeth i ’nabod digon o bobol fel cymeriad Emlyn Eilfyw-Jones, bos Luc, yn ei waith, meddai.
“Mae cymeriad Emlyn yn cynrychioli’r bobol sy’n cymryd eu hunain yn llawer rhy serious,” meddai. “Maen nhw’n anghofio’u manners! Wy’n siwr ’mod i wedi bod fel’na hefyd. Chi’n gweld ochr waetha’ pobol. Oedd e’n afiach.
“Ro’n i arfer bod yn grac. Yn grac ac yn chwerw. Dw i ddim nawr. Yn grac gyda’r byd yna ond hefyd gyda’n hunan am fod yn rhan ohono fe.”
Roedd wedi bwriadu gwneud ffilm, ‘Too Much Television’, ar ôl gweithio gyda’r cwmni ôl-gynhyrchu, cyn sylweddoli bod ffilm yn gyfrwng anodd.
Ar ôl dianc i Asia, Awstalia, Seland Newydd a’r Aifft, daeth ’nôl i Gaerdydd gyda chynllun pendant i wneud bywoliaeth o sgrifennu a llond dau lyfr nodiadau ar gyfer nofel.
“Fy mhrofiadau yn gweithio fel runner oedd y peth mwya’ ffres yn fy meddwl,” meddai.
Mae yna rai sy’n mynnu dweud bod magwraeth draddodiadol, Anghydffurfiol, dosbarth canol Gymraeg wedi eu dal ’nôl. Ond mae Llwyd Owen yn ymfalchïo ynddi.
Ysgol Glantaf oedd yr unig ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd yn ei gyfnod e. Fe olygodd hyn ei fod wedi cyfarfod â phobol o wahanol gefndiroedd, meddai.
“Mae ysgolion Saesneg y dre’ yn gwasnaethu ardal benodol,” meddai. “Dy’n nhw ddim yn dod i gysylltiad â gwahanol ddiwylliannau.
“Fi’n lwcus. Fi wedi tyfu lan mewn cymdeithas Gymraeg ei hiaith, ac mae ’da fi ffrindie Cymraeg, ond hefyd rhai o Bangladesh, Somali, India… y peth gore yw eich bod chi’n dod i ’nabod y diwylliannau gwahanol.”
Fe fuodd yn mynychu’r Capel nes ei fod yn 16 oed, meddai, er ei fod yn Anffyddiwr erbyn hyn.
“Fi byth wedi credu yn Nuw,” meddai. “Nawr fi’n gweld e fel problem mwya’r byd. Fi’n gweld fy hun fel humanist neu bagan… yn credu mewn pw^er natur ond sa i’n deall pam ni’n gorfod rhoi gwyneb dynol iddo fe.
“Mae pobol sy’n grefyddol yn cael dweud eu dweud yn aml, ond dych chi ddim yn clywed yr ochr arall. Does dim cydbwysedd.”
Mae’r awdur yn teimlo ei fod wedi cael y gorau o ddau fyd o ran ei fagwraeth.
“Nes i dyfu lan yma,” meddai. “O 16 i 23, o’n i ar y piss bob wythnos yng Nghaerdydd, ac yn dwli arno fe. Be’ wy’n licio yw’r trawsdoriad o bobol yma.
“Fi’n meddwl mod i’n ffodus iawn. Ond chi’n gorfod cymryd y piss o’r canol ddosbarth hefyd.
It’s definitely the done thing. Ond mae rhan ohona i… fi’n ffodus mod i’n rhan o hynny.”
Erbyn hyn, mae e’n cymdeithasu llawer llai, yn mwynhau ambell i beint yn ei dafarn leol ym Mharc Fictoria.
Mae’n rhan o DJ Garden of Edam sy’ wedi cynnal sawl noson yn y clybie lle maer’ Cymry Cymreg ifanc yn ddinas yn hoff ohonyn nhw – fel Capsule ynghanol y dre’, Tafod yn Riverside a Cafe Calcio yn Cathays.
“Chi’n gorfod deall bod fi’n eitha’ reclusive,” meddai. “Gwell da fi aros adre. Fi wedi prynu tocynne i fynd i cwpwl o festivals dros yr haf. Ond dw i ddim hoffi mynd mas i ganol Caerdydd. Fi’n licio’r bywyd tawel.”
Lawnsiadau llyfrau – “teimlo’n rong”
Mae’r awdur wedi bod yn “well prysur” ers cyhoeddi ‘Ffawd’, fel mae e’n galw’i nofel.
Ers rhai misoedd mae’n gweithio ar ffilm o’r nofel ac yn ceisio nawdd ar ei chyfer. Mae ffrind iddo, sy’n gyfarwyddwr teledu a ffilm, wedi bod yn chwilio am syniad i ddychanu’r cyfryngau ers tro.
Mae e hefyd yn ffotograffydd brwd ac yn gwerthu ei luniau oddi ar ei wefan.
Mae e wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau llenyddol yn ddiweddar – profiad sy’n “very very strange,” meddai.
“Mae e jyst yn teimlo’n rong,” meddai. “Mae’n rhyfedd bod pobol eisie gwrando arna i!”
Fis Gorffennaf, fe fydd Mererid Hopwood yn ei holi yn hen gartre’ Dylan Thomas yn Nhalacharn.
Mae e’n gobeithio bydd ei ail nofel allan cyn y Nadolig. Mae ganddi’r teitl dros dro, ‘Pothelli a Phroblemau Eraill’.
Dyw teitlau slic ddim yn apelio i awdur Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, yn amlwg.
“Wel, os chi wedi darllen Ffawd, chi’n gwybod ’mod i’n hirwyntog am bopeth,” meddai. “Os chi’n edrych ar Ffawd am fynd ar ôl y diafol a’r cyfryngau, mae’r ail yn mynd ar ôl y teulu a Duw. Mae e am deulu canol ddosbarth o Gaerdydd, am pa mor dull yw bywyd bob dydd, a shwd mae pethe bach yn gallu taro ar y normalrwydd hynny.”
Fe fydd yr eironi yn llai amlwg yn yr ail, meddai.
“Yn y gynta’, roedd yr eironi’n bwrpasol,” meddai Llwyd Owen. “Ro’n i eisie pobol i gymryd sylw.” Yn sicr, maen nhw wedi gwneud.
Nofel ddiweddaraf Llwyd Owen yw Rhedeg i Parys, Y Lolfa