Fis Ebrill eleni, bu farw un o ddychanwyr gorau Cymru, Dafydd Huws, yn 70 oed. Ef a greodd un o gymeriadau gorau ffuglen Gymraeg, sef Goronwy Jones, neu’r ‘Dyn Dŵad’. Dyma ailgyhoeddi erthygl a gafodd ei chyhoeddi yn Golwg yn 2010, yn dilyn cyhoeddiad ei fod am roi taw ar y Dyn Dŵad…

* * *

Mae Dafydd Huws wedi penderfynu mai’r nofel Nefar in Ewrop fydd y tro olaf iddo sgrifennu trwy lygaid y cymeriad chwedlonol, Goronwy Jones y Dyn Dŵad.

Roedd y nofel gynta’ Dyddiadur Dyn Dŵad, a gafodd ei chyhoeddi yn 1978, yn seiliedig ar golofnau’r awdur ym mhapur Y Dinesydd, yn adrodd anturiaethau Goronwy Jones, y Cofi Dre oedd wedi symud i fyw i Gaerdydd, fel yr awdur ei hun.

Daeth ei sylwadau deifiol a dychanol am y sefydliadau a’r gymdeithas Gymraeg ddinesig yn rhan o gof cenedl.

Yn ôl datganiad dychanol gwasg y Lolfa, mae Goronwy Jones am roi’r gorau iddi o dan gyfarwyddyd ei wraig Siân Arianrhod Pugh am fod 2011 yn flwyddyn bwysig i’w gyrfa wleidyddol hi. ‘Nid dyma’r amser i ffraeo ymysg ein gilydd. Ac felly Nefar in Ewrop fydd cyfrol olaf Goronwy Jones,’ meddai hi.

Mae’r awdur yn cyfeirio at dair nofel olaf cyfres y Dyn Dŵad a gyhoeddwyd ers troad y ganrif fel “trioleg y trai.”

Mae’n gyndyn o ddweud i ddechrau pam ei fod wedi colli’r awydd i adrodd troeon trwstan a sylwadau digri’ Goronwy Jones.

“Fedra i ddim dweud,” meddai Dafydd Huws. “Teimladau’r cymeriadau ydi’r rhain, teimladau Siân. Fydde well iddo gau’i geg am resymau gwleidyddol. O’i safbwynt o, mae wedi dweud yr hyn sy’ ganddo i’w ddweud.”

Ond wrth gynhesu, mae yn fodlon cadarnhau ei fod am orffen sgrifennu dychan o’r math yma.

“Dw i wedi treulio tua wyth, naw, ddeg mlynedd ddiwetha’ efo’r Dyn Dŵad,” meddai, “a theimlo’n hapusach o’r hanner mod i wedi gwneud. Ro’n i angen hyn i’w wneud o – ro’n i angen cwmni’r cyfaill er mwyn cael pethau allan o fy system.

“Ro’n i angen cael y comedi allan; angen cael dweud fy nweud. Dw i wedi gwneud dipyn go-lew o waith efo’r cymeriad am yn agos i ddeg mlynedd. Oherwydd hynny, dw i jyst yn gorffwys y rhwyfau.”

Mae’r awdur yn gyndyn iawn o ddweud a fydd hyn yn ddechrau newydd iddo, yn ei ryddhau i droi at sgrifennu o fath arall.

“Na, no comment,” meddai. “Does gen i ddim i’w ddweud. Dw i wedi dod i ddiwedd ryw gyfnod efo hwn. Dw i yn ei weld o fel degawd.

“Mi wnes i ailddechrau efo’r Dyn Dŵad yn nechrau’r blynyddoedd 2000. Y Dwyfiliau. Ro’n i’n gwneud llawer o deledu, a sgriptio, a ro’n i’n meddwl mod i eisio ar ran fy hun.

“Ond pwy a ŵyr?”

Rhaglenni S4C yn amherthnasol

Mae awduron llyfrau a theledu yn osgoi dweud y gwir am sut y mae pethau yn y Gymru sydd ohoni.

Dyna farn Dafydd Huws, sy’n credu bod “pawb wedi dofi oherwydd agweddau gwleidyddol.”

“Atal d’eud – dyna fyddai Goronwy yn ei alw fo,” meddai’r awdur. “Mae pobol yn gwrthod gwneud pynciau llosg. Roeddan nhw yn arfer eu gwneud nhw.

“Ro’n i’n sbïo ar Jabas. Pa mor naturiol oedd hwnnw, yn delio efo pethau fel tai haf, cyffuriau. Roedd hynny ugain mlynedd yn ôl – heddiw, fasech chi ddim yn cael ei wneud o. Dylai’r cwmnïau fod yn annog hyn.”

Dim ond “sebon” y mae’r cwmnïau teledu yn ei gynhyrchu ar gyfer S4C heddiw, yn ei farn e.

“Y peth ydi, drwodd a thro, y cwbl maen nhw’n wneud ydi sebon. Popeth yn sebon – bywydau, problemau personol, dim ots ble maen nhw’n ei wneud o.

“Os ydyn nhw’n ffilmio yng Nghaerdydd, Ceredigion… dyna ydi o. Pobol ifanc yn gweiddi ar ei gilydd. Rydach chi’n gwneud rhaglen am Gaerdydd, does dim byd Caerdydd ynddo fo. Chi’n gwneud rhaglen am Geredigion, does dim byd am Geredigion ynddo fo! Dydach chi ddim yn mynd at wraidd pethau.”

Os yw’r sianel genedlaethol eisiau i bobol ei gwylio, “rhaid i raglenni fod yn real i fywyd pobol, toes? A tydyn nhw ddim.”

Dyw sgwennwyr wedyn ddim am fynd ati i ymdrin â materion cymdeithasol a gwleidyddol, chwaith, meddai.

“Rydach chi’n cael hunan-sensoriaeth,” meddai. “Os ydach chi eisio eich gwaith ar deledu, rydach chi’n gorfod osgoi’r pynciau.

“Mae awduron yn mynd i’w cwman oherwydd be’ maen nhw’n feddwl y mae teledu a radio ei eisio. Mae o yn rhyw ysbryd yr oes, bod yn unigolyddol.”

Yr awdur

Cafodd y nofel gynta’, Dyddiadur Dyn Dwad ei chyhoeddi yn 1978.

Roedd y llyfrau wrth gwrs yn lled-adlewyrchu bywyd go-iawn yr awdur Dafydd Huws, a gafodd ei fagu yn Llanberis ond sydd wedi ymgartrefu yng Ngwaelod-y-garth yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer.

Ei brif waith yw sgriptio i Pobol y Cwm.

Erbyn y nofel Un Peth ‘di Priodi, Peth Arall ‘di Byw yn 1990, roedd Gron wedi cael gwraig a dechrau ar yrfa sgrifennu.

Nefar in Ewrop fydd yr ola’ o drioleg a sgrifennodd yn y ddegawd ola’ yma – ar ôl Walia Wigli yn 2004 ac Alias, Myth a Jones yn 2009.

Cafodd y llyfrau eu troi’n gyfres radio a ffilm i S4C gyda Llion Williams yn actio’r brif ran. Fe fuodd hefyd yn gwneud darlleniadau o’r llyfrau yma yn yr Eisteddfod.