Y cynllunydd dillad o Ben-y-bont ar Ogwr, David Emanuel, sy’n agor gardd yr elusen Macmillan yn Sioe Flodau RHS Caerdydd yfory. Mae’n adnabyddus am gynllunio ffrog briodas y Dywysoges Diana, ac yn ddiweddar bu’n byw yn y jyngl ar y rhaglen I’m a Celebrity Get Me Out Of Here. Yn 2012 cafodd driniaeth am ganser y prostad ac mae bellach yn un o Lysgenhadon yr elusen Macmillan…

Sut mae’ch profiad o ganser y prostad wedi newid eich bywyd?

Mae wedi gwneud imi ail feddwl am fy mywyd. Rwyf wedi cael ail gyfle. Ro’n i’n arbennig o ffodus ac ers hynny rwyf wedi newid fy ffordd o fyw yn gyfan gwbl.

Pa mor bwysig i chi yw eich gwaith yn Llysgennad Macmillan?

Pwysig dros ben. Rwy’n ymgyrchu i wneud pob dyn yn ymwybodol o bwysigrwydd cael prawf blynyddol beth bynnag yw ei oedran neu symptomau. Mae’n brawf syml all achub eich bywyd.

Pam fod Sioe Flodau RHS Caerdydd yn bwysig yn yr ymgyrch?

Enw’r ardd yn Sioe Flodau Caerdydd yw ‘Edau Cymynrodd’ ac mae’n gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd gadael rhodd, pa mor fychan bynnag, i elusen. Mae Macmillan ond yn gallu gweithredu diolch i roddion ac mae arian wedi’i adael mewn ewyllysiau yn draean o’r incwm. Mae’r ardd yn ffordd greadigol ffantastig o ddod â’r cymynroddion yn fyw.

Beth yw’ch atgof cyntaf?

Pan oeddwn tua phedair oed yn yr ysgol fabanod yng Nghymru. Dywedodd yr athro wrtha i i adael yr ystafell ddosbarth ac eistedd wrth ddesg ar fy mhen fy hun mewn cae gyda llyfr ar agor o’m mlaen. Rwy’n cofio meddwl ei fod yn rhyfedd. Wnaeth hi ddim esbonio mai tynnu llun ysgol oedd y bwriad a bod pob plentyn yn cael tynnu’i lun ar ei ben ei hun. Mae’r gweddill yn niwlog.

Beth yw eich ofn mwyaf?

Cael fy nharo gan afiechyd niwrolegol fel Parkinsons, Motor Niwron neu’r cyflwr llai adnabyddus Multiple System Atrophy. Mae gen i ofn gwirioneddol o fy meddwl yn dal yn iawn ac o fod yn ymwybodol bod fy nghorff yn dda i ddim. Gallwn ddim dioddef peidio gallu mynegi fy hun yn eglur na gweithredu’n annibynnol.

Pa mor bwysig yw’ch gwreiddiau yng Nghymru – pa mor aml fyddwch chi’n ymweld â Phen-y-bont?

Rwy’n Gymro 100% ac rwy’n galw yng Nghymru’n gyson ar ymweliadau preifat ac i dreulio amser gyda fy nheulu.

Sut wnaeth cynllunio ffrog briodas y Dywysoges Diana ddylanwadu ar eich bywyd a’ch gyrfa?

Newidiodd fy mywyd proffesiynol dros nos ac mae wedi bod yn basbort i’r byd byth ers hynny, gan agor drysau a rhoi cyfleoedd na fyddai erioed wedi codi heblaw hynny.

Sut hoffech chi gael eich cofio?

Rhywun a oedd yn garedig a gofalgar.

Beth oedd y peth gorau a’r gwaetha o fod yn rhan o’r rhaglen ‘I’m a Celebrity…’?

Y gwaetha’ oedd y dasg gyntaf wrth i mi gael fy nghlymu mewn arch perspex wedi fy ngorchuddio â 3,000 o chwilod du. Ond des i drwyddi. Ac o’r darn gwaetha daeth y gorau. Sylweddoli fod gan bob un ohonom gryfder cymeriad a grym ‘mind over matter’… dyna ddaeth â fi drwy’r profiad.

Pwy fyddech chi’n ei wahodd i’ch pryd o fwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Un o fy hoff ffilmiau yw The Taming of the Shrew wedi’i chyfarwyddo gan Franco Zefferelli gydag Elizabeth Taylor, Richard Burton a’r actor mawr o Gymru Victor Spinetti. Ges y pleser o gwrdd â phob un ar wahân a byddwn wrth fy modd eu cael gyda’i gilydd o gwmpas y bwrdd bwyd yn adrodd eu straeon, yn trafod eu profiadau… gyda Madame De Pompadour yno hefyd yn elfen ffasiynol!! Ar y fwydlen byddai platiau o Salad Tricolore a Fruit De Mares enfawr gyda galwyni o win gwyn oer a siampen!!

Gan bwy gawsoch chi’r gusan orau erioed?

Mae pob cusan yn arbennig!

Pa air neu ddywediad y byddwch yn ei or-ddefnyddio? 

‘Darling’. Rwy’n gwybod ei fod yn ofnadwy ond rwy’n anobeithiol am gofio enwau felly rwy’n galw pawb yn ‘Darling’. Rwy’n ardderchog am gofio wynebau ac yn cofio pawb rwy’n cwrdd â nhw … ond eu henwau? Anghofiwch hynny! Ond mae’n haws galw pawb yn ‘Darling’ yn y diwydiant ffasiwn.

Beth yw eich hoff wisg ffansi… ai chi a’i cynlluniodd?

Efallai y byddwch yn synnu ond FYDDA I DDIM YN GWNEUD GWISG FFANSI!!

A oes un peth y byddwch am ei newid yn eich bywyd?

Ar hyn o bryd, does dim yn dod i’r meddwl.

Beth achosodd yr embaras mwyaf i chi?

Ar fore’r briodas frenhinol roeddwn yn Nhŷ Clarence yn gwisgo’r Dywysoges Diana yn ei ffrog briodas. Gofynnais a oedd hi wedi cau’r bachau i gyd ar ei phais ond doedd hi ddim yn gallu cofio. Felly es i lawr ar fy ngliniau o dan ei phais crinolin enfawr i gadarnhau eu bod nhw gyd ar gau. Ro’n i’n dychmygu ei gweld yn dod yn rhydd wrth iddi gerdded ar hyd Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Ar ôl sicrhau eu bod ar gau roeddwn yn dod o dan yr aceri o tulle ar fy nwylo a phengliniau o dan y ffrog i ddod wyneb yn wyneb â’r fam-gu enwocaf yn y byd. Dywedodd Diana: “David, have you met the Queen Mother?” Roedd fy wyneb yn goch fel betys. Edrychodd arna’ i fel petai’n dweud: “Beth ar y ddaear ydych chi’n gwneud?”

Beth sy’n eich cadw ar ddihun yn y nos?

Weithiau syniadau am gynlluniau ac mae’n rhaid i mi eu taro ar bapur wrth ochr y gwely.

Petaech chi’n gallu teithio drwy amser – pa gyfnod o hanes y byddech yn ei ddewis?

Mae cyfnod Elizabeth 1 wedi apelio erioed gan ei fod mor addurniadol… er gallwn byth fyw gyda hynny!!

Beth oedd y wers orau i chi ei dysgu erioed?

Roedd Mam yn ddoeth iawn i fy nysgu i fod yn fi fy hun ac yn onest bob tro.

Beth yw’ch hoff air Cymraeg?

Hawdd… UFFACH!

Rhannwch gyfrinach gyda ni?

Rwy’n eitha swil. Mae’n bosib bod hyn yn swnio’n ddwl o gofio’r holl ymddangosiadau teledu a chyhoeddus ond wrth i fi gerdded i mewn i lond stafell o bobol ddiarth, weithiau mae’n ymdrech go iawn i ddechrau sgwrs.