Dyma golofnydd chwaraeon Golwg i brofi ehangder eich gwybodaeth am fyd y campau…

CYNGHRAIR Y CENHEDLOEDD 2020

1. Pwy sgoriodd gôl Cymru i guro’r Ffindir yn Helsinki?

2. Pa dair gwlad oedd yn wynebu Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd?

3. I ba glwb mae Kieffer Moore yn chwarae?

4. Pwy sgoriodd y gôl fuddugol i guro Bwlgaria yng Nghaerdydd?

5. Pwy sgoriodd gôl olaf Cymru yn y grŵp?

6. Pwy enillodd ei 99fed cap yn erbyn y Ffindir yng Nghaerdydd?

7. Enillodd Rhys Norrington-Davies ei gap gyntaf yn erbyn Bwlgaria… i ba glwb mae o’n chwarae?

8. I ba glwb y mae Ethan Ampadu’n chwarae?

9. Faint o goliau sgoriodd Cymru yn ystod gemau’r grŵp?

10. Pwy oedd yr unig dîm i sgorio yn erbyn Cymru yn y grŵp?

Y JONESIAID

11. Pwy yw’r cyn-chwaraewr Cymru, Bangor ac Abertawe, sydd yn cyflwyno ar y rhaglen Heno ar S4C?

12. Pwy oedd y mewnwr chwaraeodd 54 o weithiau i dîm rygbi Cymru rhwng 1986-1995?

13. Pwy yw’r asgellwr o Lanfair-ym-muallt a chwaraeodd 47 o weithiau i Gymru, ac sydd erbyn hyn yn hyfforddi yn Seland Newydd ar ôl cyfnod gydag RGC?

14. Pwy enillodd 15 o gapiau i dîm rygbi undeb Cymru ac 11 o gapiau i dîm Rygbi Cynghrair Cymru rhwng 1987-1998?

15. Pwy enillodd ei chap cyntaf i dîm menywod Cymru yn 15 oed yn Ynysoedd y Ffaro eleni?

16. Pa Gymro enillodd y Gynghrair a Chwpan yr FA gyda Spurs yn 1961?

17. Pwy oedd yr arwr yn y crys rhif 3 i Wrecsam a Lerpwl?

18. Pwy chwaraeodd 178 o gemau i Everton rhwng 1936-50, gan ennill 17 o gapiau i Gymru, dod yn rheolwr Pwllheli a ffurfio clwb pêl-droed Cei Connah?

19. Pa fowliwr o Abertawe chwaraeodd 18 o weithiau i dîm criced Lloegr rhwng 2002-2005?

20. Pa Gymro oedd y dyn cyntaf i ddringo wyneb gogleddol yr Eiger yn 1981?

CYMRY A CHYMRU YN 2020

21. Yn erbyn pa wlad wnaeth Josh Sheehan ennill ei gap cyntaf yn 2020?

22. Pwy oedd yr unig Gymro i orffen y Tour de France?

23. Pwy orffennodd yn ail ym Mhencampwriaeth Ralïo’r Byd ar ôl crash yn y mynyddoedd?

24. Beth yw enwau’r sêr Hollywood sydd wedi prynu clwb pêl-droed Wrecsam?

25. Pwy yw dau gapten tîm criced Morgannwg?

26. Pwy gurodd Cei Connah yng Nghynghrair Europa?

27. Pa glwb gurodd Caerdydd yn y gemau ail-gyfle ym Mhencampwriaeth Lloegr?

28. Pwy enillodd esgid aur Uwchgynghrair Cymru am y pedwerydd gwaith yn 2019-20?

29. Pwy oedd y ddau Gymro yn ein tîm darts enillodd Gwpan y Byd wrth drechu Lloegr ym mis Tachwedd?

30. Pa glwb gurodd Abertawe yn y gemau ail-gyfle ym Mhencampwriaeth Lloegr?

Y BYD RYGBI

31. Pwy sgoriodd dri chais i Gymru yn erbyn Yr Eidal ym Mis Chwefror?

32. Faint o bwyntiau sgoriodd Yr Eidal yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad eleni?

33. Pa ddyfarnwr sydd wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol ar ôl 100 o gemau yn ddiweddar?34.

34. Pwy yw’r Cymro Cymraeg sydd wedi ennill ei gapiau cyntaf yn chwarae i’r Eidal eleni?

35. Sawl un o’u deg gêm enillodd Cymru eleni?

36. Pa wledydd wnaethon nhw faeddu?

37. Faint o weithiau chwaraeodd Cymru yn Stadiwm y Mileniwm yn 2020?

38. Yn erbyn pa wledydd oedd y gemau hynny?

39. I ba ranbarth mae James Botham yn chwarae?

40. Pwy gurodd record y byd am chwarae’r mwyaf o gemau rhyngwladol eleni?

ENILLWYR 2020

Pwy enillodd…

41. Uwchgynghrair Cymru?

42.  Cwpan FA Lloegr?

43. Cynghrair rygbi’r Pro 14?

44. Cynghrair Pencampwyr Pêl-droed Ewrop?

45. Y Tour de France?

46. Tlws criced Bob Willis?

47. Pencampwriaeth Tae-Kwondo Ewrop?

48. Pencampwriaeth Formula 1?

49. Chwaraewr Gorau’r Byd Pêl-droed Menywod?

50. Y Welsh Alliance Division 2?

STADIA

Pwy sy’n chwarae yn…

51. Stadiwm y Liberty?

52. Campws Cyncoed?

53. Cae Piod?

54. Gerddi Sophia?

55. Neuadd y Parc?

56. Church Bank?

57. Viola Arena?

58. Stadiwm Zip World?

59. Pandy Park?

60. Cae-y-Castell?

PWY YW’R RHEOLWYR?

61. Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe?

62. Tîm Pêl-droed Menywod Cymru (wrth fynd i’r wasg, o leia’!)?

63. Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd?

64. Clwb Pêl-droed Casnewydd?

65. Rhanbarth Rygbi’r Dreigiau?

66. Clwb Pêl-droed Wrecsam?

67. Clwb Pêl-droed Cei Connah?

68. Rhanbarth Rygbi’r Gweilch?

69. Clwb Criced Morgannwg?

70. Tîm Rygbi Menywod Cymru?