Mewn cyfnod pan mae’r cyfnod clo ac addysg yn bwnc llosg unwaith eto, rydym yn aml yn clywed barn y Llywodraeth, awdurdodau lleol, undebau, athrawon neu rieni, ond beth am y bobl ifanc eu hunain?

Mae Meic, llinell gymorth, gwybodaeth, cyngor, ac eiriolaeth i blant a phobol ifanc yng Nghymru, wedi cyhoeddi adroddiad yn rhannu lleisiau, profiadau, a theimladau plant a phobol ifanc am ddychwelyd i’r ysgol.

Gwelodd y llinell gymorth, sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, a’i chynnal gan ProMo-Cymru, gynnydd yn y nifer o bobol ifanc oedd yn dioddef â phryder ac iechyd meddwl yn sgil Covid-19.

I geisio cael darlun cliriach am deimladau’r bobol ifanc, cafodd arolwg ciplun ei gynnal am wythnos ym mis Hydref, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod yr wythnos yma, rhoddodd 321 o blant a phobol ifanc ledled Cymru eu barn, y rhan fwyaf rhwng 11 ac 17 oed.

“Yma i wrando”

Gofynnodd yr arolwg iddynt am y pethau roeddent yn eu mwynhau am fod yn ôl yn yr ysgol, beth oedd yn eu poeni, yr effaith oedd y pandemig wedi cael ar eu haddysg, a pha mor ddiogel roedden nhw’n teimlo.

Roedd yn amlwg o’r canlyniadau fod teimladau yn gymysg iawn, teimlo’n hapus (64%) ond yn poeni ar yr un pryd (65%), poeni am ddal y feirws yn yr ysgol, ond hefyd yn credu bod yr ysgol yn ymdopi’n dda gyda mesuriadau diogelwch.

“Mae profi emosiynau sydd yn gwrthdaro yn gallu drysu person ifanc, ac efallai bod angen cymorth arnynt i ddeall y teimladau yma’n well. Mae Meic yma i wrando ac i weithio gyda nhw i ddarganfod ffordd ymlaen,” eglura Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol yn ProMo-Cymru.

Y canlyniadau

Mae’r canlyniadau wedi eu cyhoeddi yn yr adroddiad ‘Dy Lais: Dychwelyd i’r Ysgol’, a dywedodd y mwyafrif o’r rhai atebodd yr arolwg mai’r peth gorau am ddychwelyd i’r ysgol oedd cael gweld ffrindiau eto.

Yn ail i hynny roedd cael gwersi wyneb yn wyneb eto.

Roedd 72% o’r bobol ifanc yn teimlo fod Covid-19 wedi cael rhywfaint o effaith ar eu haddysg, a sawl un yn poeni am effaith hyn ar eu harholiadau.

Gyda chyfnodau clo pellach yn debygol, roedd yr ymateb i’r syniad o astudio gartref eto wedi rhannu’n eithaf cyfartal, gyda 51% ddim yn hapus gyda’r syniad, a 45% yn fodlon gyda’r syniad.

Dim ond canran fach oedd yn anhapus â’r mesuriadau diogelwch yn yr ysgol, gyda 15% yn meddwl y gallai’r ysgolion fod yn fwy llym gyda gwisgo mygydau – rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu arno drwy gyflwyno newidiadau i’r polisi ynghylch mygydau ddiwedd mis Tachwedd.

“Rwy’n teimlo fel bod yr ysgol yn gwneud yn dda iawn yn gosod rheolau sydd yn helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel ond cyfrifoldeb y disgybl ydy cadw i’r rheolau yma,” oedd ymateb arall i’r arolwg.

Derbyn cymorth

Dywedodd 54% o’r plant a’r bobol ifanc eu bod yn parhau i deimlo fel y gallant gael mynediad at ofal bugeiliol yn yr ysgol, ac roeddent yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn am gymorth gan oedolion.

Serch hynny, roedd traean o’r bobol ifanc yn teimlo fel nad oedden nhw’n gallu cael mynediad at ofal bugeiliol.

Mae Meic yn cynnig llwybr arall i blant a phobol ifanc gael siarad a chael cymorth, yn gyfrinachol a dienw.

Mae’r adroddiad yma yn clywed lleisiau plant a phobl ifanc Cymru, eu profiadau a’u teimladau nhw yn eu geiriau nhw,” ychwanegodd Stephanie Hoffman.

“Bydd yr arolwg yma yn ein helpu i gynllunio a theilwro’r gefnogaeth cynigir trwy’r llinell gymorth, y wefan a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol.”