Bydd Boris Johnson yn nodi mesurau brys i reoli lledaeniad y coronafeirws yng nghanol pryderon bod risgiau’r GIG yn cael eu llethu.
Bydd y Prif Weinidog yn gwneud anerchiad ar y teledu am 8pm heno (nos Lun, 4 Ionawr) ar ôl dod o dan bwysau mawr i gyhoeddi cyfyngiadau clo newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod hyn yn ymateb i’r “cynnydd sydyn” mewn achosion o’r feirws sy’n deillio o’r amrywiolyn newydd.
Ar ôl y cyhoeddiad am 8yh heno (Ionawr 4), bydd Senedd San Steffan yn cael ei galw ddydd Mercher er mwyn i Aelodau Seneddol drafod y mesurau.
Mae’n debyg y bydd y lefel rhybudd Covid-19 yn cael ei godi i lefel 5 – y lefel uchaf, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd yr anerchiad yn ymwneud â Lloegr yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud hynny’n glir ar ei chyfrif Twitter.
“national” = “England” https://t.co/9ekZyvPzDZ
— Welsh Government (@WelshGovernment) January 4, 2021
“Angen cymryd camau pellach nawr”
Dywedodd y llefarydd fod lledaeniad yr amrywiolyn newydd wedi “arwain at gynnydd sydyn yn yr achosion ar draws y wlad.
“Mae’r Prif Weinidog yn glir bod angen cymryd camau pellach nawr er mwyn atal y cynnydd, ac er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.”
Daw’r cyhoeddiad wedi i Nicola Sturgeon gyhoeddi y bydd cyfnod clo yn dod i rym yn Yr Alban am weddill mis Ionawr, gyda gorfodaeth i aros adre ac ysgolion wedi cau i’r rhan fwyaf nes mis Chwefror.
Er bod pobol wedi dechrau derbyn brechlyn Rhydychen / AstraZeneca heddiw, mae Boris Johnson wedi rhybuddio bod rhaid i’r Deyrnas Unedig baratoi at ychydig o wythnosau “caled”.
Ar hyn o bryd mae 78% o boblogaeth Lloegr dan reolau lefel 4, ac mae gweinidogion wedi bod yn edrych ar ba mor llwyddiannus fu’r mesurau ers dod i rym ar Ragfyr 20.
Aros diwrnod yn “achosi marwolaethau diangen”
Mae cyn-weinidog iechyd Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, wedi galw i gau ysgolion a’r ffin ar frys, a gwahardd aelwydydd rhag cymysgu.
“Yn wyneb cynnydd anferth mewn niferoedd yr achosion, mae aros diwrnod ychwanegol yn achosi marwolaethau diangen, felly mae’n rhaid cyflymu’r trefniadau ar unwaith,” meddai.
Mae’r Ceidwadwr Neil O’Brien wedi dweud bod rhaid i’r drefn “ar y ffiniau fod yn llymach” er mwyn atal achosion rhag dod mewn i’r wlad – yn enwedig gan fod pryder ynghylch amrywiolion, fel yr un yn Ne Affrica.
Dywedodd Sir Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ei fod yn gobeithio y byddai Boris Johnson yn ymateb i “alwadau clir am gyfyngiadau cenedlaethol llym”.
Mae’n rhaid cael mesurau newydd “i reoli’r feirws, amddiffyn y GIG a chreu gofod i frechu pobol mor sydyn ag sy’n bosib.”
Roedd Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gobeithio y byddai brechlyn Rhydychen yn cynnig ffordd allan o’r cyfnodau clo, ond bydd yn cymryd misoedd i ddigon o bobol gael y dos cyntaf.