Mae cyfraddau achosion Covid-19 wedi gostwng yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos.

Mae’r gostyngiadau mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Fodd bynnag, mae’r cyfraddau wedi codi mewn rhai rhannau o’r Gogledd.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 31 Rhagfyr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Maent yn dangos bod nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gostwng yn sydyn o 724.3 i 478.7, ac ym Merthyr Tudful mae’r gyfradd wedi gostwng o 901.8 i 669.7.

Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd wedi gostwng o 740.0 i 543.9.

Mae 15 o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi cofnodi gostyngiad.

Mae’r saith ardal arall wedi gweld cynnydd, gyda’r naid fwyaf yn Sir y Fflint lle mae’r gyfradd wedi codi o 349.8 i 559.9.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gofnodi’r gyfradd uchaf yng Nghymru, er bod y nifer wedi gostwng ychydig: o 952.1 i 905.1.

Cyfraddau diweddaraf yn llawn

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Ionawr. Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Ionawr 1-4) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 31 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 31 Rhagfyr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 24 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 24 Rhagfyr.

Pen-y-bont ar Ogwr, 905.1, (1331), 952.1, (1400)

Wrecsam, 772.3, (1050), 597.2, (812)

Merthyr Tudful, 669.7, (404), 901.8, (544)

Casnewydd, 585.1, (905), 614.8, (951)

Sir y Fflint, 559.9, (874), 349.8, (546)

Rhondda Cynon Taf, 559.1, (1349), 662.3, (1598)

Torfaen, 550.2, (517), 612.0, (575)

Blaenau Gwent, 543.9, (380), 740.0, (517)

Bro Morgannwg, 520.3, (695), 592.9, (792)

Caerffili, 509.7, (923), 598.6, (1084)

Castell-nedd Port Talbot, 478.7, (686), 724.3, (1038)

Caerdydd, 462.0, (1695), 549.7, (2017)

Sir Gaerfyrddin, 417.4, (788), 496.9, (938)

Abertawe, 409.7, (1012), 517.0, (1277)

Sir Ddinbych, 369.9, (354), 224.7, (215)

Sir Fynwy, 328.8, (311), 354.2, (335)

Powys, 204.6, (271), 159.3, (211)

Ceredigion, 194.0, (141), 180.2, (131)

Sir Benfro, 187.6, (236), 193.9, (244)

Ynys Môn, 167.0, (117), 81.4, (57)

Conwy, 140.8, (165), 139.9, (164)

Gwynedd, 65.0, (81), 85.9, (107)