Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng cynlluniau i drosglwyddo nifer o bwerau allweddol oddi wrth gynghorau sir.

Byddai’r pwerau’n cael eu rhoi i bedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig newydd yn y canolbarth, y de-orllewin, y de-ddwyrain a’r gogledd.

Wrth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater ddod i ben heddiw, (Ionawr 4) dyweda Cymdeithas yr Iaith fod y cynlluniau yn “tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol”.

Mae Bil Llywodraethau Leol ac Etholiadau (Cymru), a gafodd ei basio ym mis Tachwedd, yn cynnwys sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig er mwyn trefnu Datblygu Rhanbarthol rhwng nifer o gynghorau sir cyfagos.

Byddai’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn endidau cyfreithiol, yn cyflogi staff, yn cyfethol aelodau, ac yn rheoli eu harian, gan weithio ar feysydd megis trafnidiaeth a hybu llesiant economaidd eu hardaloedd.

“Effaith andwyol ar yr iaith”

Meddai Ffred Ffransis, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

“Byddai’r cynlluniau arfaethedig yma’n cael effaith andwyol ar yr iaith a chymunedau Cymraeg.

“Saesneg fyddai iaith weinyddol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yma gyda chyfieithu ond ar gael i’r rhai sydd am siarad Cymraeg yn ffurfiol.

“Ni fydd dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg â’r un flaenoriaeth ag sydd ar hyn o bryd dan gynghorau fel Gwynedd, Môn, Sir Gâr a Cheredigion, felly byddai’r cynlluniau yma’n cynrychioli cam enfawr yn ôl o ran y Gymraeg.

“Mae’n annhebygol iawn, er enghraifft, y bydd gan Gyd-Bwyllgor y De-Orllewin (sef ardal Dinas-Ranbarth Bae Abertawe) yr un pwyslais ar ddatblygu cymunedau gwledig Cymraeg ag sydd yn Sir Gâr.”

“Cyfle i atal y niwed”

“Mae’r cynlluniau arfaethedig yma hefyd yn ymosodiad ar ddemocratiaeth leol a pherchnogaeth cymunedau lleol dros gynllunio eu dyfodol,” ychwanegodd Ffred Ffransis.

“Eisoes gwelsom ddiraddio mwyafrif ein cynghorwyr etholedig trwy fod prif benderfyniadau’n cael eu cymryd gan Fwrdd Gweithredol neu Gabinet; byddai’r cynlluniau yma’n gwaethygu’r diffyg presennol yma mewn democratiaeth ac atebolrwydd.

“Byddai’r cyrff newydd yma’n uwchraddol i’n cynghorau sir ac yn golygu y bydd pŵer gwleidyddol yn cael ei symud yn fwyfwy pell o ddwylo pobl gyffredin a chymunedau Cymru.

“Byddai’r cynlluniau yma felly’n tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol. Mae’r Bil ei hun wedi pasio trwy’r Senedd, ond mae cyfle o hyd i atal y niwed,” pwysleisiodd.

“Dylai’r rheoliadau i sefydlu’r Cydbwyllgorau gael eu diwygio i egluro mai hybu cydweithio, heb rym gweithredol, yw’r nod, a dylid newid yr ardaloedd i adlewyrchu’n well anghenion ein cymunedau Cymraeg ac i alluogi rhai o’r cydbwyllgorau i weithio’n bennaf yn Gymraeg.”

“Teimlo’n gwbl annemocrataidd”

Er y byddai arweinwyr cynghorau lleol ar y pwyllgorau, mae nifer o bryderon eisoes wedi cael eu codi gan aelodau o Gabinet Cyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys wrth y Cambrian News: “Does gen i ddim brwdfrydedd ar gyfer [y cynllun] â bod yn onest.

“Mae’n cael ei orfodi arnom gan Gaerdydd, ac mae’n teimlo’n gwbl annemocrataidd ac mae’n cynrychioli diffyg atebolrwydd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago: “Rydym yn gwybod pa broblemau sy’n wynebu Gwynedd, ond yn aml rydym yn rhwystredig nad oes gennym ni’r pwerau.”

“Rydym ni angen i’r llywodraeth ddatganoli pwerau i ni a gadael i ni wneud pethau, ond yn hytrach maen nhw’n creu strwythur newydd nad ydy’r cyhoedd yn dymuno ei weld, gan fynd a’r pwerau ymhellach fyth oddi wrth y bobol.

“Nid yw’n ddemocrataidd o gwbl, mae’n gwneud pethau’n anoddach i ni ac yn cadw’r pŵer yn nwylo’r blaid Lafur,” mynnai Craig ab Iago, sy’n gynghorydd Plaid Cymru ac yn aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd.

Cydweithio yn “hanfodol”

Wrth amddiffyn y cynlluniau, dywedodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru y byddai’r mesurau yn dod â buddiannau i gymunedau ar draws y wlad.

“Mae cydweithio wedi bod yn hanfodol wrth ymateb i Covid-19, a bydd yn hanfodol wrth adfer,” meddai Julie James.

“Fel rhan o hyn rwyf yn dymuno creu mwy o gysondeb rhwng trefniadau llywodraethau rhanbarthol – gan gryfhau atebolrwydd democratiaeth leol, drwy wneud yn siŵr mai aelodau etholedig sydd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau llywodraeth leol.

“Mae’r cynllun ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni wrth ddatblygu trefniadau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru,” esbonia.