Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi cyfyngiadau clo newydd ar gyfer Lloegr mewn anerchiad ar y teledu.
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd pob disgybl ar draws Lloegr – ac eithrio plant gweithwyr allweddol a disgyblion sy’n agored i niwed – yn symud i addysg o bell o ddydd Mawrth tan hanner tymor mis Chwefror.
Dywedodd wrth bobl yn Lloegr am weithio gartref, a hynny ar ôl cynnydd sydyn mewn achosion o’r coronafeirws.
“Wrth i mi siarad â chi heno, mae ein hysbytai dan fwy o bwysau nag ar unrhyw adeg ers dechrau’r pandemig,” meddai.
“Yr wythnosau i ddod fydd yr anoddaf eto ond rwy’n credu ein bod yn dechrau ar gam olaf y frwydr oherwydd gyda phob pigiad sy’n mynd i mewn i’n breichiau rydym yn newid yr ods yn erbyn Covid ac o blaid pobl Prydain,” meddai.
Ysgolion ac arholiadau
Hefyd, bydd pob ysgol a choleg yn cau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ddydd Mawrth – gyda dysgu o bell tan hanner tymor mis Chwefror.
Cyhoeddodd hefyd na fydd arholiadau diwedd blwyddyn yn cael eu cynnal yr haf hwn yn Lloegr.
Ni fyddai bwrw ymlaen â phob arholiad yr haf hwn “fel arfer” yn deg nac yn bosibl, meddai.
Dywedodd Mr Johnson y bydd y Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Gavin Williamson, yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr arholiadau Ofqual i roi “trefniadau amgen” ar waith.
Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd y Prif Weinidog: “Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn golygu nad yw’n bosibl nac yn deg i bob arholiad fynd yn ei flaen yr haf hwn fel arfer.”
Ond dywedodd y bydd lleoliadau blynyddoedd cynnar, fel meithrinfeydd, yn dal i fod ar gael i deuluoedd o dan y cyfyngiadau clo cenedlaethol yn Lloegr.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Byddwn yn darparu cymorth ychwanegol i sicrhau y bydd disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn tra bydd ysgolion ar gau, a byddwn yn dosbarthu mwy o ddyfeisiau i gefnogi addysg o bell.”
Awgrymodd Mr Johnson y gallai Lloegr symud allan o’r cyfyngiadau symud yn raddol o ganol mis Chwefror.