Mae pryderon bod toriadau gan gwmni Centrica – er gwaetha’r ffaith iddyn nhw wneud elw gweithredu o £901m – yn arwain at streic gan beirianwyr.

Yn ôl undeb GMB, dylai’r pennaeth Chris O’Shea gael ei reoli’n well a datblygu strategaeth sy’n mynd i’r afael â rheoliadau newydd.

Ei fwriad ar hyn o bryd yw diswyddo staff a’u penodi eto dan amodau gwahanol, ac mae’r penderfyniad hwnnw’n golygu y bydd rhaid iddo fe fynd gerbron Pwyllgor Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Senedd.

Bydd peirianwyr nwy a thrydan yn cynnal pum niwrnod o weithredu diwydiannol rhwng Ionawr 7 ac 11.

Mae cyfrifon cwmni Centrica yn dangos elw gweithredol o £901m yn 2019, ac mae’r cwmni hefyd wedi datgan elw sydd wedi’i addasu o £229m ar gyfer y busnes gwresogi cartref ar gyfer chwe mis cyntaf 2020 – cynnydd o 27% o’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Mae Chris O’Shea am ennill £800,000 y flwyddyn fel rhan o’r cynlluniau – ugain gwaith yn uwch na pheirianwyr ar gyfartaledd.

Ymateb undeb GMB

“Mae gwleidyddion yn y Senedd, yn briodol, yn galw Chris O’Shea ger eu bron,” meddai Justin Bowden, Ysgrifennydd Cenedlaethol undeb GMB.

“Mae angen iddyn nhw ofyn iddo fe pam fod cwmni a wnaeth elw gweithredol o bron i biliwn o bunnoedd yn pryfocio streic peirianwyr tros doriadau diswyddo ac ailhurio yn nyfnderoedd y gaeaf.

“Mae angen i fwrdd Centrica ei dynnu fe i mewn a rhoi strategaeth go iawn ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r materion go iawn i gael bod yn brif gyflenwr ar gyfer cwsmeriaid yn yr amgylchfyd o reoliadau sydd wedi’u newid, ac sy’n mynd â staff gyda nhw – dyna i chi arweiniad go iawn.”

Mae’r undeb yn dweud bod Nwy Prydain “wedi methu â datblygu strategaeth o dan Chris O’Shea i addasu i amgylchfyd reoleiddiol newydd”.

“Yn hytrach, mae Mr O’Shea yn cosbi gyda thoriadau cyflog i beirianwyr gyda bygythiadau o ddiswyddo ac ailhurio sydd wedi cael eu condemnio’n eang – gan gynnwys y prif weinidog.

“Mae disgwyl i Chris O’Shea fod ar ei ennill a thyfu ei ffortiwn o frwydro â gweithlu ymroddgar a ffyddlon.

“Mae angen i fwrdd Centrica gamu i mewn a gwneud yr hyn sy’n iawn i’r cwmni yn hytrach na mantolen banc Mr O’Shea.”