Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o weithredu’n rhy hwyr ar gau ysgolion.
Ddoe (dydd Llun, Ionawr 4), cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, fod ysgolion a cholegau ledled Cymru yn symud i ddysgu ar-lein tan Ionawr 18.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r bythefnos nesaf i weithio gydag awdurdodau lleol a lleoliadau addysg i “i gynllunio ar gyfer gweddill y tymor”.
Cyn hynny, roedd y llywodraeth wedi trefnu i ysgolion gael hyblygrwydd dros bythefnos gyntaf tymor y gwanwyn, gan ganiatáu iddyn nhw ddewis pryd y byddai myfyrwyr yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.
‘Mwy o amser’
Ond yn ôl Siân Gwenllian, dylai athrawon a rhieni fod wedi cael mwy o rybudd ac amser i addasu.
“Mae hyn yn eglurder ar yr unfed awr ar ddeg gan Lywodraeth Cymru, gan adael ychydig neu ddim amser i rieni ac athrawon addasu i’r amgylchiadau sy’n newid,” meddai.
“Yn yr Alban, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu symud addysg ar-lein tan fis Chwefror wrth i’r feirws fynd ar y blaen i’r brechlyn ac mae angen i Lywodraeth Cymru egluro pam ei bod ar ei hôl hi o ran cymryd camau cadarn i reoli’r feirws.
“Nid yw’n glir beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl bydd yn newid ymhen dim ond pythefnos ac felly mae perygl i ni fod yn yr un sefyllfa unwaith eto gyda mwy o ddryswch eto mewn pythefnos.
“Mae angen i’r Gweinidog Addysg egluro pa gymorth bydd ar gael i blant o gefndiroedd difreintiedig a fydd yn awr ar ei hôl hi gyda’u haddysg, ac i rieni sy’n jyglo gwaith ac yn gofalu am blant gartref.”
NEU Cymru yn croesawu symud tuag at ddysgu ar-lein
Mae undeb NEU Cymru, ar y llaw arall, wedi croesawu cyhoeddiad Kirsty Williams.
Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru fod “NEU Cymru yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y wyddoniaeth, a ni fel undeb, o ran gofyn iddynt gau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb”.
“Credwn y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o le i wyddonwyr ddeall effaith amrywiolyn newydd y feirws,” meddai.
“Fel addysgwyr, mae ein haelodau am fod yn yr ystafell ddosbarth, gan weithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu yn eu dysgu. Ond yn anffodus nid ydym yn y sefyllfa honno.
“Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i geisio helpu i sicrhau bod pawb mewn addysg mor ddiogel â phosibl ac y gall pawb gefnogi plant a phobl ifanc mewn dysgu ar-lein.”
Angen sicrwydd ar rieni, disgyblion ac athrawon ledled Cymru, medd y Ceidwadwyr
“Gyda llawer o blant i fod i ddechrau dychwelyd i’r ysgol o ddydd Mercher ymlaen, mae’r newyddion yma wedi dod yn hwyr iddyn nhw ac i’w rhieni,” meddai Suzy Davies, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Yr hyn sydd ei angen ar rieni, disgyblion ac athrawon ledled Cymru yw sicrwydd gan y Gweinidog ynghylch pa amodau sydd angen bodloni er mwyn i ysgolion ailagor, oherwydd er eu bod yn fesur doeth, bydd darllen bod y pythefnos nesaf yn cael ei ddefnyddio i gynllunio ar gyfer ‘gweddill y tymor’ yn cynnig ychydig iawn o sicrwydd.
“Mae’r cyhoeddiad hwn, fodd bynnag, yn atgyfnerthu ein galwadau am flaenoriaethu athrawon i dderbyn y brechlyn newydd, oherwydd mae’r feirws hwn wedi niweidio addysg ein dysgwyr ifanc ddigon.”