Mae Donald Trump yn dweud ei fod e’n barod i “frwydro fel y diawl” i gael aros yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, gan ymbil ar y Gweriniaethwyr i beidio â rhoi eu sêl bendith i Joe Biden a chanlyniadau’r Coleg Etholaethol.

Bydd corff deddfu’r blaid yn cyfarfod yr wythnos hon i gadarnhau’r canlyniad, ac fe wnaeth e fynnu mewn rali is-etholiad yn Georgia na fydd Joe Biden “yn cipio’r Tŷ Gwyn hwn” a’i fod e wedi ennill yr etholiad “o dipyn”.

Roedd e eisoes wedi ymbil ar y Gweriniaethwyr yn Washington i wrthwynebu’r canlyniad yn ffurfiol.

Serch hynny, mae ei alwadau parhaus i ddileu canlyniad yr etholiad yn hollti’r blaid ac mae’r sefyllfa’n rhoi ei ddirprwy Mike Pence dan bwysau gan mai fe fydd yn gorfod cyhoeddi’r canlyniad yn y Senedd.