Mae pensiynwraig mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân yn ei chartref ym Mangor.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân ar Ffordd Hendre ychydig cyn 7:30yh neithiwr (nos Lun, Ionawr 4).

Cafodd y ddynes, sydd yn ei 80au, ei chludo i Ysbyty Gwynedd ar ôl cael ei llosgi.

Aeth criwiau tân o Fangor a Phorthaethwy i’r digwyddiad ar ôl cael eu hysbysu gan “system fonitro yn yr eiddo”.

Mae ymchwiliad ar y cyd wedi cael ei lansio gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i achos y tân.

“Mae menyw yn ei 80au mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn tân yn ei chartref ym Mangor,”  meddai’r gwasanaeth tân mewn datganiad.

“Cawsom wybod am y tân gan system fonitro yn yr eiddo.

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i’r digwyddiad ar y cyd.”