Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi cyhoeddi grantiau newydd i gefnogi busnesau drwy’r gwanwyn yn dilyn y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf yng ngwledydd Prydain.

Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn cael hawlio hyd at £9,000 yn ôl y Trysorlys.

Bydd y taliadau un tro yn gysylltiedig â chyfraddau busnes, gyda thaliadau o £4,000 ar gael i fusnesau â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.

Bydd £6,000 ar gael i fusnesau â gwerth ardrethol o £15,000-£51,000 a £9,000 ar gael i fusnesau â gwerth ardrethol o fwy na £51,000.

Mae disgwyl i’r taliadau gostio £4bn wrth iddyn nhw gefnogi 600,000 eiddo busnes yng ngwledydd Prydain.

Bydd £594m pellach ar gael i gynghorau a gwledydd datganoledig Prydain i gefnogi busnesau sy’n methu gwneud cais am y grantiau, gyda Chymru’n derbyn £227m.

Ymateb Rishi Sunak

“Mae amrywiolyn newydd y feirws yn cynnig her enfawr i ni i gyd – a thra bo’r brechlyn yn dechrau cael ei roi, fe fu angen i ni dynhau’r cyfyngiadau ymhellach,” meddai Rishi Sunak.

“Drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi gweithredu ar frys i warchod bywydau a bywoliaethau a heddiw, rydym yn cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi busnesau a swyddi tan y gwanwyn.

“Bydd hyn yn helpu busnesau drwy’r misoedd sydd i ddod – ac yn hanfodol, fe fydd yn helpu i gynnal swyddi, felly gall gweithwyr fod yn barod i ddychwelyd pan fydd modd iddyn nhw ailagor.”