Mae adroddiadau’n awgrymu bod dyfodol bragdy Brains yn y fantol drachefn.
Mae’r teulu Brain yn berchen ar fragdy mwyaf Cymru ers ei sefydlu yn 1882.
O ganlyniad i heriau’r coronafeirws, a chyfyngiadau masnachu llymach a gafodd eu cyhoeddi’n ddiweddar yng Nghymru, mae Brains wedi dod o dan bwysau ariannol sylweddol.
Does dim prynwr wedi’i ganfod eto ar gyfer y bragdy ac mae ymgynghoriad ar ddiswyddiadau i fod i ddechrau heddiw (dydd Mawrth (Ionawr 5).
Mae’n debyg bod 80 o swyddi dan fygythiad.
Mae disgwyl y bydd bragu’n symud i Loegr yn y tymor byr ond mae ofnau am ei barhad hirdymor fel brand.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Brains y byddai pob un o’u 156 o dafarndai, y rhan fwyaf ohonyn nhw yng Nghymru, yn cael eu cymryd drosodd gan Marston’s.
Ond roedd ansicrwydd ynghylch y bragdy’n parhau, a chafodd ei roi ar werth gan y cwmni.
A nawr, mae’n edrych yn debygol na fydd un o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru bellach yn un Cymreig.
Mae Brains wedi dweud wrth golwg360 na fyddan nhw’n gwneud sylw.