Mae bragdy mwyaf Cymru wedi dechrau proses ymgynghori er mwyn dod o hyd i fuddsoddwr neu werthu’r cwmni.

Mae Bragdy Brains, sydd a mwy na 200 o dafarndai yng Nghymru ac yn cyflogi dros 1,500 o weithwyr, wedi bod yn berchen i’r un teulu ers ei sefydlu yn 1882.

Yn ôl y Sunday Times mae Alistair Darby, prif weithredwr Bragdy Brains, yn cydweithio â chwmni ymgynghori Evercore am y ffordd ymlaen – gyda dod o hyd i fuddsoddwr neu werthu’r cwmni’n bosibilrwydd.

Daw hyn wedi i’r cwmni benderfynu cau eu tafarndai gan nad oedd modd iddyn nhw werthu alcohol. 

Ers dechrau mis Rhagfyr does dim hawl gan dafarndai, bariau, bwytai na chaffis yng Nghymru weini alcohol ac mae’n rhaid iddynt gau am chwech yr hwyr.

Disgrifiodd prif weithredwr Bragdy Brains y sefyllfa fel un “rhwystredig a sarhaus”, a bod y clo dros dro diweddar wedi costio £1.6m i’r bragdy.

Fodd bynnag roedd adroddiadau cyn y pandemig fod y cwmni yn edrych i werthu oddeutu 40 o dafarndai i dalu dyledion, a delio gydag ansicrwydd economaidd Brexit.

Mewn datganiad am y datblygiad diweddaraf, dywedodd y cwmni: “O ystyried effaith Covid-19 ar y sector lletygarwch cyfan, mae Brains, gyda’i gynghorwyr Evercore, yn gweithio gyda’r holl randdeiliaid i lywio drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd.”