Mae disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gymraeg, Aberystwyth yn hunanynysu am 10 diwrnod.
Gofynnwyd i’r Grŵp Cyswllt hunanynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos o’r coronafeirws a gadarnhawyd yn yr ysgol.
Rhaid i’r disgyblion a’r staff hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.
Er mai dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunanynysu, fel mesur rhagofalus, gofynnir i Flynyddoedd 3 a 4 i aros adre yfory.
Mae dysgu o bell wedi dechrau i flynyddoedd 3 a 4 yn o ddydd Llun (Rhagfyr 14) ac i weddill y disgyblion o ddydd Mawrth (Rhagfyr 15).
Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni.
Ac mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i gyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:
- Tymheredd uchel.
- Peswch parhaus newydd.
- Colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.