Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 10 Rhagfyr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Rhagfyr 11-14) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

Mae’r cyfraddau wedi codi mewn 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol.

Mae’r cynnydd mwyaf ym Merthyr Tudful, lle mae’r gyfradd wedi codi o 470.8 i 822.2 – yr uchaf yng Nghymru.

Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 14 Rhagfyr.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 10 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 10 Rhagfyr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 3 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 3.

Merthyr Tudful 822.2, (496), 470.8, (284)

Castell-nedd Port Talbot 722.2, (1035), 614.7, (881)

Pen-y-bont ar Ogwr 649.4, (955), 344.8, (507)

Casnewydd 621.3, (961), 391.8, (606)

Abertawe 617.4, (1525), 428.4, (1058)

Caerffili 588.2, (1065), 393.2, (712)

Rhondda Cynon Taf 584.4, (1410), 395.0, (953)

Blaenau Gwent 575.4, (402), 499.6, (349)

Torfaen 488.5, (459), 414.0, (389)

Caerdydd 450.8, (1654), 322.7, (1184)

Sir Gaerfyrddin 413.2, (780), 271.8, (513)

Bro Morgannwg 312.2, (417), 223.8, (299)

Sir Fynwy 311.9, (295), 265.4, (251)

Wrecsam 249.3, (339), 207.4, (282)

Sir y Fflint 208.2, (325), 129.4, (202)

Ceredigion 173.3, (126), 162.3, (118)

Sir Benfro 159.8, (201), 174.9, (220)

Powys 129.1, (171), 90.6, (120)

Sir Ddinbych 123.3, (118), 83.6, (80)

Conwy 91.3, (107), 53.8, (63)

Gwynedd 48.2, (60), 43.4, (54)

Ynys Môn 34.3, (24), 51.4, (36)