Mae amrywiolyn newydd o’r Coronafeirws sy’n lledu’n gyflymach wedi’i ganfod mewn rhai rhannau o Loegr.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Matt Hancock, fod o leiaf 60 o wahanol awdurdodau lleol wedi cofnodi heintiau Covid a achoswyd gan yr amrywiolyn newydd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael gwybod ac mae gwyddonwyr y Deyrnas Unedig wedi dechrau astudiaethau manwl.
Sefyllfa Lloegr
Daw hyn wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd gyhoeddi bydd Llundain a rhannau o Essex a Swydd Hertford yn wynebu cyfyngiadau Haen 3 o ddydd Mercher (Rhagfry 16) yn dilyn cynnydd mewn achosion.
“Ar hyn o bryd rydym wedi nodi dros 1,000 o achosion gyda’r amrywiolyn hwn yn ne Lloegr yn bennaf – ond mae achosion wedi’u nodi mewn bron i 60 o wahanol ardaloedd awdurdodau lleol,” meddai Matt Hackock.
“Mae’n dangos bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus a dilyn y rheolau – mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb i beidio â lledaenu’r feirws hwn.
“Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn y feirws ar draws Llundain, Caint, rhannau o Essex a Swydd Hertford.
“Nid ydym yn gwybod i ba raddau y mae hyn oherwydd yr amrywiolyn newydd ond ni waeth beth yw ei achos mae’n rhaid i ni gymryd camau cyflym a phendant sydd, yn anffodus, yn gwbl hanfodol i reoli’r clefyd marwol hwn tra bo’r brechlyn yn cael ei gyflwyno.”
‘Annhebygol iawn’ na fydd y brechlyn yn gweithio
Wrth ateb cwestiwn gan Jeremy Hunt, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dywedodd Matt Hacock ei bod hi’n “annhebygol iawn” na fyddai’r brechlyn yn gweithio gyda ‘r amrywiolyn newydd.
“Byddwn yn gwybod hynny yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth i’r amrywiolyn newydd gael ei asesu,” meddai.