Mae un o gymeriadau mwyaf poblogaidd Cymru, Sali Mali, yn dychwelyd i’n sgrin dros y Nadolig.

Bron i ugain mlynedd ers y gyfres gyntaf, mae cwmni cynhyrchu Calon wedi cyhoeddi bydd 26 o benodau newydd sbon yn cael eu darlledu ar S4C, gyda’r bennod gyntaf ar gael i’w gwylio ar Noswyl Nadolig.

Unwaith eto’r actor Rhys Ifans fydd yn trosleisio’r gyfres a’r gantores Cerys Matthews fydd yn canu’r gerddoriaeth agoriadol.

Bydd y gyfres  boblogaidd sydd wedi ei animeiddio yn dilyn anturiaethau cymeriadau gwreiddiol Mary Vaughan Jones ac yn ystod y rhaglen Nadolig bydd Sali Mali a’i ffrindiau yn paratoi ar gyfer ymweliad Siôn Corn.

‘Benderfynol o weld Sali Mali yn ôl ar ein sgriniau er gwaethaf Covid’

Eglurodd Robin Lyons, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon, fod Covid-19 yn golygu fod y tîm cynhyrchu wedi gorfod gweithio mewn ffyrdd newydd.

“Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid iddo fod yn ffordd wahanol o weithio eleni, ond fel tîm roedden ni’n benderfynol o weld Sali Mali yn ôl ar ein sgriniau,” meddai.

“Gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau gweithiodd pawb, o’r awduron i’r cyfarwyddwr, y cynhyrchydd a’r tîm cynhyrchu, o bell… ac rwy’n falch iawn o fod wedi cyflawni’r hyn dan yr amgylchiadau yma.

“Roedd hi’n hollol wych cael Rhys a Cerys yn rhan o’r rhaglen eto – rhoddodd y ddau eu hamser i fynd i stiwdios diogel i recordio’r rhannau.

“Er ein bod ni ugain mlynedd yn ddiweddarach dydyn ni ddim yn teimlo fod angen newid y cymeriadau. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar Noswyl Nadolig.”

Yr actor Rhys Ifans fydd yn trosleisio’r gyfres unwaith eto

‘Pleser pur’

Diolchodd Cerys Matthews am y cyfle i ganu’r gerddoriaeth agoriadol unwaith eto.

“Roedd ailymweld â’r gân hon gymaint o flynyddoedd ar wahân yn rhywbeth arall,” meddai.

“Roeddwn wrth fy modd gyda’r gerddoriaeth bryd hynny ac rwy’n ei garu nawr er bod cymaint o amser wedi mynd heibio a chymaint wedi newid.

“Roeddem yng nghanol y clo cyntaf pan wnes i recordio’r fersiwn newydd sbon yma gyda’r geiriau a’r trefniant newydd.

“Mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn bleser pur – roedd yn rhaid i ni i gyd gadw’n bell yn gymdeithasol, wrth gwrs – ond roedd mynd i mewn i stiwdio i wneud rhywbeth mor gyfarwydd a phleserus yng nghanol rhywbeth mor anarferol yn wych.”