Mae’r nofelydd David Cornwell, oedd yn cael ei adnabod fel John le Carre, wedi marw yn 89 oed ar ôl dioddef o niwmonia.
Ymhlith ei 25 o nofelau adnabyddus roedd Tinker Tailor Soldier Spy, The Spy Who Came In From The Cold, a The Night Manager.
Bu’n gweithio i’r gwasanaethau cudd-wybodaeth ym Mhrydain, gan gynnwys MI6, yn ystod y Rhyfel Oer gan dynnu ar ei brofiadau i ysgrifennu ei nofelau.
Ei gymeriad mwyaf adnabyddus oedd y swyddog cudd wybodaeth George Smiley – cafodd y rôl ei chwarae gan Alec Guinness yn y gyfres deledu Tinker Tailor Soldier Spy.
Cafodd David Cornwell ei eni yn 1931 a’i addysgu ym Mhrifysgol Bern yn Y Swistir lle bu’n astudio Almaeneg.
Fe aeth i Rydychen i astudio ymhellach cyn dysgu yn Eton, ac yna dechrau ei yrfa gyda’r gwasanaethau cudd-wybodaeth.
Cafodd ei nofel gyntaf Call For The Dead ei chyhoeddi yn 1961 o dan ei ffugenw, John le Carre.
Dwy flynedd yn ddiweddarach fe gyhoeddodd The Spy Who Came In From The Cold, a enillodd glod yn fyd-eang. Fe adawodd y gwasanaethau cudd-wybodaeth er mwyn ysgrifennu’n llawn amser.
“Cawr”
Dywedodd bod y gwasanaethau cudd-wybodaeth wedi caniatáu iddo gyhoeddi’r llyfr am eu bod yn cydnabod mai ffuglen oedd e ac nad oedd yn peri unrhyw risg diogelwch. Ond dywedodd bod y wasg wedi penderfynu bod y llyfr yn ffeithiol ac y byddai o hynny ymlaen yn cael ei adnabod fel “yr ysbïwr oedd wedi troi’n awdur yn hytrach nag awdur sydd, fel nifer o rai tebyg, wedi treulio cyfnod yn y byd cudd-wybodaeth ac wedi ysgrifennu amdano.”
Dywedodd ei asiant Jonny Geller, o’r cyhoeddwyr Curtis Brown: “Wnawn ni ddim gweld ei debyg eto ac fe fydd ei golled yn cael ei deimlo ymhlith pawb sy’n caru llyfrau.. Ry’n ni wedi colli ffigwr arbennig o lenyddiaeth Saesneg.”
Mae’r awduron Robert Harris a Stephen King ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel “cawr”.
Mae’n gadael gwraig, Jane, a’i feibion Nicholas, Timothy, Stephen a Simon.