Dylan Ebenezer yw cyflwynydd newydd rhaglen newyddion boreol newydd BBC Radio Cymru – Dros Frecwast.

Mae cyflwynydd rhaglen deledu Sgorio ar S4C yn cymryd lle Dylan Jones sydd wedi bod yn cyflwyno’r Post Cyntaf ers 2014.

Bydd Dylan Jones yn ymuno â rhaglen newyddion y Post Prynhawn o ddydd Mawrth i ddydd Gwener gyda Nia Thomas wrth y llyw ar ddydd Llun.

Dychwelyd i ble dechreuodd y daith

“Mae Radio Cymru wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd a fy ngyrfa,” meddai Dylan Ebenezer.

“Dyma ble dechreuodd y daith i mi fel darlledwr dros ugain mlynedd yn ôl.

“Rwyf wedi cael gymaint o brofiadau gwerthfawr yn ystod y cyfnod yna, ac mae cael y cyfle i ddychwelyd – yn enwedig i gyflwyno un o raglenni mwyaf blaenllaw’r orsaf – yn hollol wefreiddiol.”

‘Newyddion o’u bro, o’u gwlad ac yn rhyngwladol’

Eglurodd Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru, mai bwriad rhaglen Dros Frecwast yw “sicrhau dechrau da i’r dydd i’r rheini sy’n awchu am y newyddion diweddaraf o’u bro, o’u gwlad ac yn rhyngwladol.”

“Rydw i mor falch o’r tîm egnïol ac amryddawn sydd gennym yn cyflwyno ac yn gohebu ar raglenni newyddion BBC Radio Cymru,” ychwanegodd.

“Rwy’n gwybod bydd gwrandawyr yr orsaf yn ymddiried yn Kate Crockett, Dylan Ebenezer a Gwenllian Grigg i’w tywys drwy newyddion Cymru a’r byd bob bore.”

Bydd Dylan Ebenezer yn cychwyn cyflwyno’r rhaglen newydd gyda Kate Crockett ar Ionawr 25, 2021.