Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gorfod ynysu nifer o gleifion ar ward iechyd meddwl Santes Non, sy’n rhan o Ysbytai Dydd Bro Cerwyn / Sant Brynach yn Hwlffordd, Sir Benfro

Daw hyn ar ôl i achos positif o’r coronafeirws gael ei gadarnhau yno.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, mae pob claf yn sefydlog ac yn derbyn gofal ar ei ben ei hun ac yn unol â chanllawiau atal heintiau, gan ddefnyddio Offer Amddiffynnol Personol a chadw pellter cymdeithasol.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i asesu a darparu gofal iechyd meddwl yn y gymuned, a gwneud trefniadau amgen ar gyfer unrhyw un sydd angen gofal ysbyty.

Ar ben hynny, mae gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau wrth gefn ar waith i sicrhau bod y gofal gorau posibl yn cael ei ddarparu i gleifion.