Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cynllun â phedair lefel o rybudd i roi mwy o sicrwydd i bobol a busnesau am y cyfyngiadau.

Mae Cymru ar lefel rhybudd 3 ar hyn o bryd, ac mae cryn sôn y bydd rhaid mynd i lefel 4 – clo llym – ar ôl y Nadolig.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cynllun mor “syml a chlir â phosibl”, a’i fod hefyd yn esbonio sut a phryd bydd Cymru’n symud rhwng y gwahanol lefelau.

Dyma’r pedair lefel rhybudd:

  • Lefel 1 (risg isel): Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl – cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a chynghori gweithio gartref.
  • Lefel 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu a roddir ar waith i reoli achosion lluosog neu frigiadau penodol.
  • Lefel 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
  • Lefel 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo.

Wrth gyhoeddi’r bwriad am y drefn newydd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog, os nad yw’r mesurau diweddar yn rheoli’r feirws, ei bod yn “anochel” y bydd rhaid symud i lefel 4.

“Mae’n rhaid i mi fod yn glir – os nad yw’r mesurau a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf a’r wythnos yma, ac ymdrechion pob un ohonom yn ddigon i droi’r llanw ar y feirws, yna bydd hi’n anochel y bydd angen i ni symud i lefel 4 ar ôl y Nadolig,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r cynllun diweddaraf hwn yn dangos sut y bydd y mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy unffurf wrth inni symud drwy’r pandemig, gan roi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau.”

Ychwanegodd Mark Drakeford bod hi’n bosib byddai cyfyngiadau gwahanol ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru yn y dyfodol.