Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws newydd i roi mwy o sicrwydd i bobol a busnesau am y cyfyngiadau.

Dan y cynllun bydd pedair gwahanol fath o rybudd, o lefel rhybudd 1 i lefel rhybudd 4, ac mae Cymru ar lefel rhybudd 3 ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, wrth gyhoeddi’r cynllun dywedodd y Prif Weinidog os nad oedd mesurau a gyflwynwyd yn ddiweddar yn mynd i’r afael â’r haint, bydd rhaid symud i lefel 4 ar ôl y Nadolig – sy’n cyfateb i glo cenedlaethol.

Golyga hyn byddai lletygarwch, campfeydd a siopau sydd ddim yn hanfodol yn gorfod cau, ond byddai ysgolion a mannau addoli yn parhau ar agor.

“Mae’n rhaid i mi fod yn glir – os nad yw’r mesurau a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf a’r wythnos yma, ac ymdrechion pob un ohonom yn ddigon i droi’r llanw ar y feirws, yna bydd hi’n anochel y bydd angen i ni symud i lefel 4 ar ôl y Nadolig,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r cynllun diweddaraf hwn yn dangos sut y bydd y mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy unffurf wrth inni symud drwy’r pandemig, gan roi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau.”

Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r cynllun newydd yn ffurfiol ddydd Llun, Rhagfyr 14, a bydd yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf.

4 lefel newydd:

  • Lefel rhybudd 1 (risg isel) – dyma’r agosaf at normalrwydd yr ydym yn debygol o’i gael cyn yr haf a hyd nes y bydd brechlynnau wedi’u darparu yn eang.
  • Lefel rhybudd 2 (risg ganolig) – cyflwyno mesurau rheoli ychwanegol wedi’u targedu i gadw’r cyfraddau heintio ar lefelau is. Gall y rhain gael eu hategu gan gyfyngiadau lleol wedi’u targedu’n fwy i reoli achosion neu frigiadau penodol.
  • Lefel rhybudd 3 (risg uchel) – dyma’r pecyn llymaf o gyfyngiadau, heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo.
  • Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn) – mae cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i gyfnod clo ac yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.

Ychwanegodd Mark Drakeford bod hi’n bosib byddai cyfyngiadau gwahanol ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru yn y dyfodol.

Bydd holl atyniadau awyr agored Cymru hefyd yn cau o ddydd Gwener, Rhagfyr 11, ymlaen.

Achosion ar gynnydd

Yn ystod y gynhadledd i’r wasg cyfeiriodd y Prif Weinidog at y graff yma sy’n dangos  cyfradd y coronafeirws mewn gwahanol siroedd.

Mae’r gyfradd ar gynnydd yn bron pob un sir.

2,500 yn yr ysbyty erbyn y Nadolig

Yn ystod y saith diwrnod diwethaf roedd 12,000 achos newydd o’r feirws yng Nghymru, meddai’r Prif Weinidog.

Mae nifer y cleifion coronafeirws mewn ysbytai hefyd wedi cyrraedd 1,900 am y tro cyntaf ac yn parhau i gynyddu.

“Os bydd y cynnydd hwn yn parhau, fe allem gael 2,500 o bobl gyda coronafeirws yn yr ysbyty erbyn dydd Nadolig,” meddai Mark Drakeford.