Mae’r band Josgins yn rhyddhau cân o fawl i Bootleger, y dyn o Wrecsam sydd â dros 300,000 o ddilynwyr ar Twitter, heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 11).

Mae ‘Poethi’ yn gymysgedd o gitâr a churiadau sbonclyd, ac wedi ei ysbrydoli gan y ‘Bootlegger’ yn ogystal â thîm pêl-droed Cymru, a phêl-droed yng Nghymru yn gyffredinol.

Mae’r gân ar gael i’w ffrydio a’i lawr-lwytho.

Roedd y Bootlegger – Karl Phillips – ar glawr cylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Mae canwr Josgins, Iestyn Jones, yn disgrifio’r sengl newydd fel “gwrthdrawiad perffaith o draddodiadau hen a newydd”.

“Mae Poethi yn ‘gri frwydr’ dros bêl-droed Cymru a phêl-droed ledled y byd,” meddai.

“Fe’i hysbrydolwyd gan yr enwog ‘Bootlegger’ o Wrecsam ac rydym yn gobeithio y gall y gân fod yn belydr o olau i’n helpu trwy fisoedd hir y gaeaf”.

Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio ar y sengl mae Iestyn Jones (Rebownder), Dafydd Rhys (Ceffylau Lliwgar), Gruffydd Meredith (MC Mabon), David Taylor, Ed Holden (Mr Phormula) a Gwyn Jones (Maffia Mr Huws).

Mae’r band yn dweud bod eu dylanwadau yn cynnwys The Idles, Black Grape a New Order.

“Mae miwsig yn hud Duwiol sy’n cysylltu ni. Ar hyn o bryd, ryda ni angen miwsig mwy nag erioed,” meddai Iestyn Jones.