Mae 75 o brentisiaid o ffatri gwneud adenydd awyrennau Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint wedi creu gwresogyddion gardd wedi’u hysbrydoli gan y ffilmiau Star Wars.
Cafodd y gwresogyddion gardd, sydd wedi’u creu o fetel dalen amrwd, eu creu gan fyfyrwyr yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy.
Aethon nhw ati i greu gwresogydd i’w roi yn yr ardd sy’n debyg i long ofod yr ‘Imperial TIE’ a oedd yn cael eu gyrru gan filwyr Darth Vader yn y ffilmiau Star Wars.
“Roedd yn wych eu bod nhw wedi cael dysgu sgiliau newydd, o dorri a siapio gyda pheiriannau plasma i weldio a dylunio,” meddai Tony Commins, athro’r myfyrwyr.
“Ar ôl dim ond 42 awr, fe aethant o fod yn ddechreuwyr llwyr i fod yn gallu defnyddio’r technegau hyn yn fedrus ac maen nhw i gyd wedi cynhyrchu rhywbeth i fynd adref gyda nhw.
“Mae’r stofiau yn sylfaenol yn debyg i stofiau gardd neu wresogyddion patio. Felly dw i’n siŵr y byddan nhw’n cael croeso wrth i nosweithiau oer y gaeaf dynnu i mewn.”
Elfen o hwyl i’r dysgu
Dywedodd Tony, sy’n ddilynwr brwd o ffilmiau Star Wars, bod y tîm ar safle Cei Connah bob amser yn ceisio rhoi elfen o hwyl i’r dysgu.
“Bydd y sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn ychwanegu dimensiwn arall at y wybodaeth a’r profiad roedd ganddyn nhw eisoes, ac roedd yn ymddangos bod y grwpiau yn mwynhau’r dasg yn arw,” ychwanegodd.
“Yn ystod y blynyddoedd rydyn ni wedi cynhyrchu llawer o greadigaethau gwych a rhyfeddol ar gyfer yr awyr agored, o Darth Vader i byllau Tân y Ddraig, ac fel cefnogwyr ffilmiau ffuglen-wyddonol does dim pall ar ein syniadau.
“Gwnaeth bob un o’r prentisiaid waith rhagorol; roedd yn wych eu cael nhw gyda ni ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”